Genre Ranking
Get the APP HOT

Chapter 4 BLYNYDDOEDD ERAILL. 1828-1840.

At Manor Deifi

Cathl yr Eos

Abad-dy Tintern

Can Gwraig y Pysgotwr

Y Ddeilen Grin

Y Darluniau.

ALUN

"Does destyn gwiw i'm can,

Ond cariad f' Arglwydd glan."

COLOFN MAES GARMON-S. MAURICE JONES.

CARTREF MEBYD ALUN-S. MAURICE JONES.

CASTELL CONWY {1a}

"Ar furiau tref ai rhaid trin

Anhoff astalch a ffestin?"

MARATHON

"Gwnawn weunydd a llwynydd llon,

Mawr hwythau, fel Marathon"

CAERWYS {1b}

"Lluman arfoll Minerfa

Sydd uwch Caerwys ddilys dda."

RHYWUN {1c}

"Gwyn ac oer yw eira Berwyn."

UN O HEOLYDD CAERWYS

"Hawddamor bob gradd yma, orwych feirdd."

YR AMSER GYNT {1d}

"Bu'n hoffi mi, wrth deithio 'mhell

Gael croesaw ar fy hynt."

GWRAIG Y PYSGOTWR

"Dwndwr daear sydd yn darfod,

Cysga dithau ar dy dywod."

Rhai Geiriau.

[Lle rhoddir yr esboniad yn Saesneg, dealler mai esboniad Alun ei hun yw hwnnw.]

Abred, ystad dadblygiad trwy gyfnod drwg anelwig i ddynoliaeth hapus; "treiglo abred," mynd trwy holl dro trawsfudiad.

Arfeddyd, bwriad, amcan.

Balawg, uchel.

Brathawg, apt to stab, assassinating.

Breila, breilw, rhosyn.

Breyr, uchelwr, gwrda, barwn.

Callawr, crochan.

Deddyw, daeth.

Diachreth, di-gryn, cadarn.

Diarynaig, hero

Digrawn, llifol, heb gronni

Digyrrith, hael, caredig.

Dyheuent, gasping for breath.

Dyspaidiad, in the intermission.

Eiriach, cynhilo

Elwch, llawenydd, gorfoledd.

Enrhaith, fellows.

Ffladr, caruaidd, taer wenieithus, anwyl.

Fflwch, llawn; buan.

Galon, gelynion.

Germain, shout.

Gofynaig, cais.

Gorthaw, distawrwydd, amynedd.

Gwawrwalch, a valiant man, a hero.

Graid, fire, urgency.

Gryw, Greek.

Gwaladr, tywysog, rheolwr.

Gyrr, attack, onset.

Hadledd, dirywiad, dinistr.

Heng, gwth, taith orfod.

Hirell, gleams of light.

Huddug, tywyll, trist.

Hwi'n golofn, form into a column.

Loes gwefrawl, electrical shock.

Lleuai, read.

Main, meini.

Mwd, tan y to, nenfwd.

Nwyfre, awyr, nef.

Rhialyd, natur, greddf.

Rhom, rhyngom.

Sarllach, bost, bloddest.

Sawdan, Soldan, Sultan.

Sitwyr, rangers, freebooters.

ALUN.

"IDDO EF."

Dat. i. 5.

'Does testun gwiw i'm can

Ond cariad f' Arglwydd glan

A'i farwol glwy;

Griddfanau Calfari,

Ac angau Iesu cu,

Yw nghan a mywyd i,

Hosanna mwy.

Paham bu i ddeddf y net

Ymaflyd ynddo EF,

A rhoi iddo glwy?

Fe roddwyd yn y drefn,

Fy meiau ar ei gefn;

Pwy na roi floedd drachefn-

Hosanna mwy.

Ergydiwyd ato EF,

Gan uffern, byd, a nef,

Eu saethau hwy:

Arhodd ei fwa'n gry',

Nes maeddu uffern ddu,

A phrynu mywyd i,

Hosanna mwy.

Caniadau'r nefol g?r,

Sydd oll i'm Harglwydd I?r

A'i ddwyfol glwy;

Y frwydr wedi troi,

Ellyllon wedi ffoi,-

Sy'n gwneyd i'r dyrfa roi

Hosanna mwy.

O faint ei gariad EF!

Nis gall holl ddoniau'r nef,

Ei dreiddio drwy:

Mae hyn i mi'n beth syn,

I ruddfan pen y bryn

Droi'n gan i mi fel hyn,

Hosanna mwy.

Pan ddelo'r plant yngh?d,

O bedair rhan y byd,

I'w mangre hwy;

Tan obaith yn ddilyth,

Cael telyn yn eu plith,

I ganu heb gwyno byth,

Hosanna mwy.

Tra bwyf ar riwiau serth,

Preswylydd mawr y berth,

Rho'th gwmni trwy;

Mae cofio am y loes

Dan arw gur y groes,

Yn rhyw feluso f'oes,

Hosanna mwy.

Na ddigied neb o'r plant,

Am imi ganu ar dant

O'u telyn hwy:

Myfyrio'r tywydd du

Fu ar ein Iesu cu,

A droes fy nghan mor hy',

Hosanna mwy.

ANGAU.

Englynion a ysgrifenwyd yn ddifyfyr ym mynwent y Wyddgrug.

"Ni foddir (mae'n rhyfeddol)-chwai angau,

A chyngor dymunol;

Er wban, griddfan greddfol,

(Uthr in' yw!) ni thry yn ol.

Er gwaedd mam,-er gweddi myrdd,

Er gwên byd,-er gwyneb hardd,

Er swn c?yn,-er seinio cerdd,

Er ing ffull, mynn angau'i ffordd.

Ni eiriach rai bach rhag bedd,-i'r cedyrn

Rhoir codwn i'r dyfn-fedd;

A mirain feibion mawredd

Ostyngir, siglir o'u sedd.

I'r llaid yr aeth fy nhaidiau,-i huno,

Fu'n heinyf er's dyddiau:

I'r ystafell dywell dau,

Ryw funud, yr af innau.

Ond cael nod hynod, a hedd-yr Iesu,

A drws i dangnefedd;

Yn dawel yn y diwedd,

Af i gaban bychan bedd.

CYMDEITHAS GYMREIGYDDOL CAERLLEON.

Boed llwydd, mewn pob dull addas,-a chynnydd

I'ch enwog Gymdeithas;

Heb stwr, na chynnwr, na chas-

Geni beirdd heirdd fo'i hurddas.

Bu gannoedd drwy bob gweniaith,-addefent,

Am ddifa'r Omeriaith;

Aent hwy i lawr i fynwent laith-

I fyny safai'r fwyn-iaith.

Heddyw gwelaf na faidd gelyn-er gw?n,

Roi gair yn ei herbyn;

A dolef gref sy'n dilyn,

"A lwyddo Duw, ni ludd dyn."

Cur llawer fu Caerlleon,-y gw'radwydd

Sy'n gwrido hanesion;

Am groesi'r Clawdd hir i hon,

Brethid calonnau Brython.

'Nawr Cymry gant wisgant wên,

Chwarddu gant a cherddi gwin,

Ceir bri, a chwmni, a chan,

O fewn Caer heb ofn y cwn.

Byw undeb, gyda bendith,-a daenir

O'ch doniawl athrylith:

Gelyn breg, rhwyg rheg rhagrith

I chwerwi'ch plaid, na chaer i'ch plith.

DAU ENGLYN

Ar Briodas Mr. P. Williams a Miss Whitley, Broncoed.

Gan Naf eiddunaf i'r ddau-bob undeb,

A bendith, a grasau,

I fyw'n hir, ac i fwynhau

Dedwyddwch hyd eu dyddiau.

Eirchion y gwaelion heb gelu,-pur rad

Parhaus fo'n defnynnu:

Pob urddawl ollawl allu

Iddyn' ddel-medd Ioan Ddu.

Tach., 1812

GENEDIGAETH IORWERTH II.

Llais llid Iorwerth.

Clywch! clywch! ar hyd lannau Clwyd

Ryw swn oersyn o arswyd!

Gorthaw'r donn, cerdda'n llonydd,

Ust! y ffrwd,-pa sibrwd sydd?

O Ruddlan daw'r ireiddlef

Ar ael groch yr awel gref;

Geiriau yr euog Iorwerth,

O 'stafell y Castell certh;

Bryd a chorff yn ddiorffwys,-

Hunan-ymddiddan yn ddwys:

Clywch, o'r llys mewn dyrys d?n,

Draw'n sisial deyrn y Saeson,-

"Pa uffernol gamp ffyrnig?

A pha ryw aidd dewraidd dig?

Pa wrolwymp rialyd

Sy'n greddfu trwy Gymru 'gyd?

Bloeddiant, a llefant rhag llid,

Gawrwaeddant am deg ryddid,-

'Doed chwerwder, blinder, i blaid

Ystryw anwar estroniaid;

Ein gwlad, a'n ffel wehelyth,-

Hyd Nef,' yw eu bonllef byth;

Ac adsain main y mynydd,-

Och o'u swn!-yn gasach sydd;

'Ein gwlad lan amhrisiadwy,'

Er neb, yw eu hateb hwy.

"Pa les yw fod im' glod glan

Am arswydo'r mawr Sawdan,-

Pylu asteilch Palestin,

Baeddu Tyrciaid, bleiddiaid blin;

Troi Chalon wron i weryd,

Ie, curo beilch wyr y byd,-

Os Gwalia wen,-heb bennaeth,

A'i mawrion gwiwlon yn gaeth,-

Heb fur prawf,-heb farrau pres,

Na lleng o wyr, na llynges,-

A ymheria fy mawr-rwysg,

Heb fy nghyfri'n Rhi mewn rhwysg?

Er cweryl gyda'r cawri,

A lladd myrdd, nid llwydd i mi;

Ni fyddaf, na'm harfeddyd,

Ond gwatwor tra byddo'r byd.

"Ha! ymrwyfaf am ryfel,

O'm plaid llu o ddiafliaid ddêl:

Trowch ati'r trueni trwch,

Ellyllon! gwnewch oll allwch.

"I ti, O Angeu, heddyw y tyngaf,

Mai am ddialedd mwy y meddyliaf;

Eu holl filwyr, luyddwyr, a laddaf,

Un awr eu bywydau ni arbedaf;

Oes, gwerth, i hyn aberthaf,-gwanu hon

Drwy ei chalon fydd fy ymdrech olaf.

Dichell Iorwerth.

"Ha! ha! Frenin blin, i ble

Neidiodd dy siomgar nwyde?

Oferedd, am hadledd hon,

Imi fwrw myfyrion;

Haws fydd troi moelydd, i mi,

Arw aelgerth, draw i'r weilgi,

Nac i ostwng eu cestyll,

Crog hagr, sef y creigiau hyll.

"Oni ddichon i ddichell,

Na chledd na nych, lwyddo'n well?

Rhyw ddu fesur ddyfeisiaf,-

Pa ystryw ddwys, gyfrwys gaf?

Pa gais? pa ddyfais ddifêth

Gaiff y budd,-ac a pha beth?

"'Nawr cefais a wna r cyfan,-

Mae'r meddwl diddwl ar dan;

Fy nghalon drwy 'nwyfron naid,

A llawenydd ei llonaid;

Gwnaf Gymru uchel elwch,

I blygu, a llyfu'r llwch:-

I wyr fy llys, pa'nd hyspyswn

Wiw eiriau teg y bwriad hwn?"

A chanu'r gloch a wnai'r Glyw,

Ei ddiddig was a ddeddyw,-

"Fy ngwas, nac aros, dos di,

A rhed," eb ei Fawrhydi,-

"Galw ar fyrr fy Mreyron,

Clifford hoew, Caerloew lon;

Mortimer yn funer fo,

A Warren, un diwyro."

Deuent, ymostyngent hwy

I'w trethawr, at y trothwy:

O flaen gorsedd felenwawr

Safai, anerchai hwy'n awr,-

"Cyfeillion bron eich Brenin,

A'i ategau'r blwyddau blin,-

Galwyd chwi at eich gilydd

Am fater ar fyrder fydd;

Gwyddoch, wrth eu hagweddau,

Fod llu holl Gymru'n nacau

Ymostwng, er dim ystyr,

I'm hiau o gylch gyddfau'u gwyr;

Ni wna gair teg na garw,-

Gwên, na bar,-llachar, na llw,

Ennill eu serch i'm perchi,

Na'u clod i'm hawdurdod i:

Ni fynnant B?r, cynnor cain,

Ond o honynt eu hunain;

Ganedig bendefig da,

O'u lluoedd hwy a'u llywia:-

Ond cefais, dyfeisiais fodd,

O dan drais, i'w dwyn drosodd;

Ac i mi gwnant roddi rhaith,

Ac afraid pellach cyfraith;

Rhoi llyffeithair a gair gaf,-

Gair Gwalia gywir goeliaf:-

Yn rhywfodd, ni ddysgodd hon

Er lliaws, dorri llwon:

Elin?r, lawen araf,

Mewn amhorth yn gymorth gaf;

Mererid i'm Mreyron

I'w cais pur trwy'r antur hon."

Traethai'r Brenin, gerwin, gau,

Ar redeg ei fwriadau;

A'r Cyngor wnai glodfori,

Mor ddoethwedd rhyfedd eu rhi,

A'i ddihafal rialyd,

Mewn truthiaith, gweniaith i gyd.

Yna'r arglwyddi unol

A gilient, nesent yn ol,

Gan grymu pen i'w Brenin,

Laig ei glod, a phlygu glin.

Ufudd-dod y Frenhines.

E geisiai frys negesydd

Yn barod, cyn darfod dydd,-

A gyrrai, ar farch gorwych,

I'r brif-ddinas y gwas gwych,

A gofynaig i'w Fanon,

A gair teg am gariad hon:

Y lonwech bur Elinawr

Serchog, oedd yn feichiog fawr;

Gofynnai a hwyliai hon,

Gryn yrfa, i Gaernarfon,

Ar fyrder, fod mater mawr

I'w ddisgwyl y dydd esgawr.

O fodd ufuddhaodd hon,

Iach enaid, heb achwynion;

Dechreuai'r faith daith, 'run dydd,

Mewn awch, a hi'n min echwydd;

Gwawl lloer, mewn duoer dywydd,

A'i t'wysai pan darfai dydd;

Oer y cai lawer cawod,

Cenllysg yn gymysg ag ?d;

Anturiai, rhodiai er hyn,

Trwy Gwalia, tir y gelyn;

Er ymgasgl bar o'i hamgylch,

A'i chell yn fflamiau o'i chylch,-

Ni wnai hon ddigalonni,

Mor der oedd ei hyder hi;

(Ow! ow! 'n wir beri'r bwriad

Tra glew, er dinistrio gwlad:)-

Daeth, wrth deithio o fro i fryn,

Y faith yrfa i'w therfyn.

A'r deyrnes gynnes, heb gêl

Yn ddiegwan ddiogel;

Rhoes Iorwerth eres warant,-

Ae rhingyll i gestyll, gant,

Am alw cydymweliad

Brenin ac arglwyddi'n gwlad:

Rhuddlan oedd y fan i fod

Hygof erfai gyfarfod;

I dorri rhwystrau dyrys

Y gelwid, llunid y llys:-

D'ai'r eurfig bendefigion

O amryw le 'Nghymru lon;

Yno y daeth yn y dydd,

Gwalia o gwrr bwygilydd.

Ond oedai Edward wedyn

Eu galw i'r llys, hysbys hyn;

Disgwyliai a dwys galon,-

Heb gau ei amrantau 'mron,

I'w fanon wirion, arab,

Ar awr ferth, esgor ar fab.

Harddai y lle-rhoi fwrdd llawn,

A gosod rhyw esgusiawn;

Ond er yr holl arfolli

Holl blaid ein penaethiaid ni

Ni charent y gwych aeron-

Y dawnsiau a'r llefau llon:

Y morfa llwm a hirfaith,

Lle berw tonn, oedd llwybr eu taith,

A myfyrient am fawrion

Aeth mewn cyrch dan dyrch y donn,-

Y glewion, enwogion wyr

Laddwyd, a'r prif luyddwyr:

Rhodient pan godai'r hedydd

Fel hyn, hyd i derfyn dydd;

A'u dyddiau oll fel diddim,

Synnent, ond ni ddwedent ddim:

Wedi egwyl ddisgwyliad,

O fewn eu bron daeth ofn brad,-

Swn, fal rhwng sisial a son,

"Llawrudd a chyllill hirion;"

'Roedd gwaelod y trallod trwch,

I wyr Gwalia'n ddirgelwch.

Geni Tywysog.

Wele! o'r diwedd, ar ol hir dewi,

Deuai i Iorwerth genadwri

O Gaersalwg,-gwnai ei groesholi,-

Yna ei holl anian oedd yn llonni

Hyd grechwen, pan glywodd eni-bachgen

Ag aur wialen a gai reoli.

Ac yna a'i udganwr

A'i gorn teg i gern y t?r:

Galwyd arglwyddi Gwalia, ar unwaith,

Ar heng hirfaith i ddod i'r gynghorfa.

Pob rhyw gadr waladr oedd

Yn esgud yn ei wisgoedd;

Distain wnai iddynt eiste

Bob yn lwyth-bawb yn ei le:

Deuai'r Ynad dirinwedd,

Mewn parchus, arswydus wedd;

Mewn rhwysg a muner-wisgoedd,

Coron ar y coryn oedd;

A gwyneb yn llawn gweniaith,

O drefn y dechreuai draith.

"Fy neges, brif enwogion,

A glywiau teg y wlad hon,-

Nid ydyw i wneyd adwyth,

Dwyn loesion llymion yn llwyth,-

I fygwth clwyf a gwaith cledd,

Nac i lunio celanedd;

Ond o fwriad adferu

Eich hyfawl barch fel y bu;

Cymru ben baladr ffladr fflwch

Heddyw sydd eisiau heddwch;

Rhoddi Llywiawdwr addwyn,

Nwyfre maith, wnaf er ei mwyn;

Un na's trina es'roniaith,

Na swn gwag Seisonig iaith;

Fe'i ganwyd ar dir Gwynedd,

Dull Sais, na'i falais, ni fedd;

Addefir ef yn ddifai,-

Ni ?yr un fod arno fai:

Yn fwynaidd gwybod fynnwn,

Beth wnewch? Ufuddhewch i hwn?"

* * * * *

Cydunent, atebent hwy,-

"Ymweledydd mawladwy,

I'n cenedl rhyw chwedl go chwith

Ydyw geiriau digyrrith;

Cymru wech,-nis cymrai hon

Lyw o astrus law estron;

Ond tynged a brwnt angen,

A gwae ei phobl, blyga'i phen:

Ll?n ein llon D'wysogion sydd

'Leni mewn daear lonydd:

Rho di'r llyw cadarn arnom

A dedwydd beunydd y b'om:-

Enwa 'nawr, er union waith,

Y gwr del wisga'r dalaith,

'Nol cyfraith, fel b'o rhaith rhom,

Na thyrr ing fyth awr rhyngom:

Ie, tyngwn, at angau,

Yn bur i hwn gwnawn barhau."

Fulion! ni wyddent falais,

Dichellion, na swynion Sais.

Dwedai'r blin Frenin ar frys-

"Felly ces fy ewyllys,

Doe y daeth, megis saeth, son

Yn erfai o Gaernarfon,

Fod mab rydd wynfyd i mi,

Nawdd anwyl, newydd eni;

A hwn fydd eich llywydd llon,

A'ch T'wysog enwog union:

Dal a wnaf, nes delo'n wr,

Drethi eich llywodraethwr;

Bellach, y bydd sarllach Sais,

Mawr ddilwrf Gymry ddeliais."

Gwelwent, a safent yn syn,

Ymhleth ddiachreth ddychryn;

A phob boch oedd yn brochi,-

Tro'i brad aml lygad i li.

Araeth Madog.

Ebai Madog, enwog wr,-

"Ha! rymusaf ormeswr!

Tybiais falch wawrwalch lle'r êl,

Wir awch, yn wr rhy uchel,

I lochi brad dan lech bron,

A challawr i ddichellion:

Ond ni wnei gu Gymru'n gaeth,

Bro dirion, a bradwriaeth;

Ni phryni serch prid, didwyll,

Ac odiaeth hon, gyda thwyll:

Os gall dy frad ddwyn gwlad glau

I gur a chwerw garcharau,-

Nis gall dy ewin-gall wau

Rhwym a ddalio'r meddyliau:

A oedd cochi perthi'n pau,

A llawruddio'n holl raddau,-

Ein llyfrau, a'n gotau gwaith,-

A'n haneddau ni'n oddaith,

Y teryll aer,-torri llw,

A'r brad ger Aberedw,-

Ow! ow! yn ddiwegi ddim yn ddigon,

I ddangaws, i araws i oes wyrion,

Fel rhyw anhawddgar ac afar gofion

Mai marwor meryw yw ystryw estron?

Ond am y wlad, deg-wlad hon,-gwybydd di,

Rhaid iti ei cholli, er dichellion.

"Os yw breg gwgus, a braw,

Fal wedi dal ein dwylaw,

Daw ail gynnwrf, dilwrf da,

I drigolion dewr Gwalia;

Codwn, arfogwn fagad,

O wrol wych wyr y wlad;

Mewn bar y bonllefa'r llu

'Camrwysg ni oddef Cymru,-

Rhi o'n huchel wehelyth,

Cymro boed i'r Cymry byth!'

Ni chaiff Sais, trwy ei drais, drin

Iau ar warr un o'r werin!

Daw'r telynau, mwythau myg,

Ddewr eu hwyl, oddiar helyg;

Rhed awen, er id wahardd,

Cerdd rhyfedd rhwng bysedd bardd;

Gwnant glymau a rhwymau rhom,

Enynnant y tan ynnom;

Dibrin pawb oll dadebrant,-

Heb ochel, i ryfel 'r ant;

A'n mynwes yn lloches llid,

Ein harwyddair fydd 'Rhyddid!'

"Ag arfau ni wna'n gorfod

Tra'n creigiau a'n bylchau'n bod;

Cariwn mewn cof trwy'r cweryl,

Y'mhob bwlch, am Thermopyl;

Gwnawn weunydd a llwynydd llon,

Mawr hwythau, fel Marathon;

Yn benaf llefwn beunydd,-

'Marw neu roi Cymru'n rhydd?'

"Os colli'n gwlad, anfad wyd,

O'r diwedd dan ruddfan raid,-

Yn lle trefn, cei pob lle troed,

Wedi ei gochi a'n gwaed;

Trenga'n meibion dewrion dig,

A llawryf am y llurig.

"Yn enw Crist eneiniog-ymroddaf

Am ryddid ardderchog;

A'r un Crist fu ar bren cr?g,

Ni ymedy a Madog."

E daw ar hyn,-d'ai ar ol

Ryw ddistawrwydd ystyriol.

Ac Iorwerth, ar y geiriau,

Fel llew dig ffyrnig mewn ffau;

Malais y Sais, echrys wg,

A welid yn ei olwg.

Tyb Euraid Ap Ifor.

O ryw fuddiol arfeddyd,-rhoi'n rhagor

Euraid Ap Ifor ei dyb hefyd,-

"Hyf agwrdd bendefigion,

Rhy brysur yw'r antur hon;

Ar furiau tref, ai rhaid trin

Anhoff astalch a ffestin?

Mae llid yn fy mron hynaws,

At Saeson, a'u troion traws;

Ond serch, a glywserch i'm gwlad,

O'm calon a rwyddlon red;

Na ato fyth, etwa fod

Neint hon yn gochion i gyd,-

Arafwn,-o'r tro rhyfedd

Hwyrach cawn, y mwynhawn, hedd;

E ddaw ergyd ddiwyrgam,

Lawn cur, i ddial ein cam;

Ac hefyd dylid cofio,-

Er prudded, trymed y tro,-

Er angeu'r gair fu rhyngom,

'R amodau, rhwymau fu rho'm:

Pan roddo Gymro y gair,

Hwnnw erys yn wir-air;

Ei air fydd, beunydd heb ball,

Yn wir, fel llw un arall:

Ein hynys hon i estron aeth,

A chyfan o'n gwiw uchafiaeth;

Ond ni throes awch loes, na chledd,

Erioed mo ein hanrhydedd;

A'n hurddas a wnawn arddel,

Y dydd hwn, a doed a ddêl:

Ein hiawn bwys yn hyn, O bid,

Ar Dduw a'i wir addewid.

Duw a'n cyfyd ni, cofiwn,

Y diwedd, o'r hadledd hwn;

Heddyw, oedwn ddywedyd

Ein barn, yn gadarn i gyd;

Profwn beth dd'wed ein prif-fardd,-

Gwir iawn bwyll yw geiriau'n bardd;-

Pa lwyddiant, yn nh?b Bleddyn,

A ddigwydd o herwydd hyn?"

Amneidient mewn munudyn

Ar yr ethol ddoniol ddyn,-

Yna, a phwys ar ben ei ffon,

Y gwelid y gwr gwiwlon:

Ei farf fel glan arian oedd,-mewn urddas,

Cyrhaeddai hon wasg ei wyrddion wisgoedd;

Yn null beirdd, enillai barch,-ar bob peth

E ddygai rywbeth hawddgar a hybarch.

Proffwydoliaeth Bleddyn.

D'wedai, agorai'r gwir-air,-

"Clyw frenin gerwin, y gair!

'R hyn ddaw, trwy fy llaw i'r ll?s,

Duw y dynged a'i dengys;

Am ennyn aer mwy na neb,

Troi a chynnal trychineb,

Gwneyd ochain yn seilfain sedd,-

Rhoi dy wersyll ar d'orsedd!

Am ddifrodi, llosgi, lladd,

Brad amlwg, a brwd ymladd;

A rhoi bro, mewn taro tynn,

I wylo am Lywelyn:-

(Iachawdwr a braich ydoedd,

Ac anadl ein cenedl oedd;)

Fel y rhoist g?r, mesur maith,

Y telir i ti eilwaith.

O! trochaist lawryf mewn trwch-waed,

Dy arlwy wrth Gonwy oedd gwaed.

Hwn geraist yn lle gwirawd,-

Bleiddiaid sy'n ffoi rhag cnoi cnawd.

Y mae maith och mam a thad,

Gwaedd a chur gweddw a chariad,-

A main lle mae ymenydd

Llawer dewr, a gollai'r dydd,-

Temlau, ac aneddau'n wag,

Yn rhoi manwl air mynag,-

I un gwrdd ddwyn gwan yn gaeth,-

Iddo gael buddugoliaeth:

Ond llion mawrion am hyn

O ddialedd a ddilyn.

"Awr na feddyli, daw'r nef ddialydd,

Dy waed oera ar dywod y Werydd;

Cydwybod Iwfr wna dwrf cyn y derfydd,

Hon a'th boena-gyrr ddrain i'th obenydd;

Caiff Brython gwirion dan gerydd-fyw'n llon,

Eu muriau'n llawnion, a marw'n llonydd.

"A gwaeth nac oll a wnaethost,

Mewn du far mynni dy fost,-

Gwenaist pan gwelaist galon

Wiw a phur ar waew-ffon!

Ti ddigred, ni roist ddeigryn

Yn y lle yr wylwyd llyn!

Llanwaist gron goron a gwaed,

Ac arall ?f y gorwaed!

Clyw'n s?n!-mwd Bercley'n seinio, {26}

Dychryn i'w ganlyn ac O!

Marwol loesion bron Brenin,

Tan grafangau bleiddiau blin.

Hyfryd dduwiesau Hafren,

Pan glywant a wisgant wên.

Daw blwyddau llid a bloeddiad,

Du hin, ar warthaf dy had!

Clyw! ddolefau, briwiau bron,

O'r T?r Gwyn {27} mae'r taer gwynion;

Dy hilion, mewn du alaeth,

O dan gudd, leiddiaid, yn gaeth!

A mynych gwna cromeni

Y T?r cras watwor eu cri:

Ni adewir o'r diwedd

Wr o dy sil ar dy sedd.

"Ha! ha! 'r dwyrain egyr ei dorau,-

Ai cwrel sydd yn lliwio cyrrau

Creigydd, moelydd, a du gymylau?

Nage, gwawrddydd glan, eirian oriau,

Wiwber anwyl sydd ar y bryniau;

Gwelwch Gymru ar fynydd golau,

A'n iach wyrion o'i chylch yn chwarau,

(Rhos sy' o danynt ar sidanau,)

Hust! ust! ust!-mae'n dyfod i'm clustiau,

Gathl enwog oddiar ei thelynau,-

Cerddorion a Beirdd, heirdd eu hurddau,

Yn dorf bloeddiant,-'Wi! darfu blwyddau

Yr ochain anwar a chynhennau;'-

Par y d?n i'm hyspryd innau-roi llam,

Mwy e grychneidia'm gorwych nwydau.

"Daw dyddiau mad a diddan,

A mawr lwydd i Gymru lan;

Dyddiau bwrcaswyd iddi,

Ar dy ddichell dywell di;

O Dduw Ner daw'r hoewder hwn,

I'n Duw eilchwyl diolchwn:

Derfydd amser blyngder blin,

Curaw tymhestlog gerwin.

Daw hinon a daioni

O dy drais, na's tybiaist ti;

Bydd cof mewn gwledd am heddyw,

A chlod am it' fod yn fyw:

Iach amrant Lloegr a Chymru,

Daw'r ddwy-wlad mewn cariad cu;

Yna'n y ddwy mwy ni ddêl,

I'w trefi helynt rhyfel;

Un llys fydd drwy'n hynys hon,

Una'i gwyr dan un goron;

Unant nerth, rhag rhyferthwy,

Un reddf ac un ddeddf i'r ddwy;

Un Duw arnynt, un deyrnas,

Un lluoedd, un floedd, un flas:

Gwelaf Frython, {28}-'rwy'n llonni,

Yn eistedd ar d'orsedd di!

Ac o ystlys a gwestle,

Y gyllell hir gyll ei lle:

A o gof ymladdau gant,

Eu hing hefyd anghofiant;

Cant gyd-fwynhau breintiau braf,

Law-law i'r genedl olaf:

Lle gwelwyd twyll a galar,

Echrys boen, a chroes a bar,-

Rhinwedd welir a hinon,

Gwenau, a bonllefau llon;

Rhyfela dry'n orfoledd,

Screchiadau yn hymnau hedd.

Ar eirian fro Eryri,

Ei chreigiau a'i hochrau hi,-

Lle mae trigfa'r bar yn bod,

A dwyn arfau dan orfod;-

Lle gwelir llu y gelyn,

A'u bloedd hell, y blwyddau hyn,-

Anhirion elynion lu,

A'u tariannau'n terwynu;-

Anianawl serch yn ennyn,

A ffoi at y gwaew-ffyn;-

Tyf breilos, a rhos di-ri',

Ar hon, a'r loew lili;

Eos fydd bob dydd yn dod

I fryn, yn lle cigfranod:

"Ar y llethri a'r tyli telaid,

Tybiaf y gwelaf y bugeiliaid,

Lwythau dofion, yn mhlith eu defaid,

Tarfant a chanant ffwrdd ochenaid,

Llamsach ?yn bach yn ddibaid,-mor ddifyr,

Chwim a mygyr gylch y mamogiaid.

"Lle codwyd bwyeill cedyrn,

Bydd twmpathau chwarau chwyrn;

Dawnsio pan y darffo y dydd,

A thelyn ar frith ddolydd:

I'n hynys, pan ei hunir,

Daw tawelwch, heddwch hir;

A chywir heddwch a rhyddid

Wneir y dydd hwnnw yn aur did;

Ar wddwf Cymru rhoddir

Y gadwen hon i gadw'n hir;

Y drefn gaeth wriogaethol,

Mwya'i nerth, a i ddim yn ol;

Bydd un gyfraith, 'run rhaith rhawg,

I lwyth isel, a Th'wysawg:

Iraidd wiwlon rydd-ddeiliaid,

Ri'r gwlith, yn eu plith o'u plaid;

Colofnau y breintiau bras,

A chadarn-weilch y deyrnas;

Ar bob mater a cherydd,

Rheithwyr yn farnwyr a fydd:

'R un fro wnaeth gwyar yn frith,

O dda gynnyrch ddwg wenith;

Cod yr amaeth, cydia'i rwymau,

Cain reolau, cyn yr haulwen;

Deil waith odiaeth, d?l a thidau,

Iau a bachau lle bo ychen;

Teifl yr hadau,-llusga'r ogau,

Egyr ddorau gwar ddaearen,

Er cael cnydiau, yn eu prydiau,

Rhag i eisiau rwygo asen.

"Esmwytho nos amaethydd,

Heddwch, diofalwch fydd,-

Y daw gelyn digwilydd

I'r berllan, na'r ydlan rydd;

Ac ni raid braw daw un dydd,

Ryw ormeswr i'r maesydd,

Neu Fodur cryf i fedi

'Nol anferth drafferth i drin:

Tybia'i wlad yn Baradwys,-

Dyry gainc wrth dorri'i gwys

A swch fuasai awchus

Gleddyf un dewr hyf di-rus;

Ymaith ar unwaith yr a,

Uwch ei boen y chwibiana.

"Ac anterth cymer gyntun,

Heb i ofal atal hun;

O hyd yn ddiwyd ddiarf

Heb fod dan orfod dwyn arf

Heb elynion o Gonwy

O fewn maes i'w hofni mwy.

"A thew ffrwyth ar

Gwnna'n gynnar;

Daw mawnog, gallt, a mynydd,

A bronydd, yn dir braenar.

"Y ddwy wlad cyd addolant,

Cyd foli'r I?n union wnant;

Rhont glodydd i'w Dofydd da,

Law-law mewn Haleluia:

"Yna y tyf yn y tir

Bob helaeth wybodaeth bur,

O ddirgelion meithion m?r,

Daear, a'i sail, hyd i'r sêr.

"Helicon pob ffynnon ffel,

Parnassus pob bryn isel:

Eu rhyfedd faner hefyd

Achuba, orchfyga fyd;

O Gressi'r maes hagr asw,

I antur lan Waterlw:

Ac y diwrnod cadarnwych

Bydd y deyrnas addas wych

Heb ei bath, heibio i bob

Un arall o fewn Ewrob;

Rheola mewn rhialyd

O begwn i begwn byd."

Gyda bloedd, gweda Bleddyn,

"Y nefol I?r wna fel hyn,

Foreu tawel o frad tywyll,

A llewyrcha o'r ddichell erchyll:

Molwn Dduw y Nef, gan sefyll,

Yna pawb a awn i'n pebyll."

CERDD CALAN GWYLIEDYDD Y WYDDGRUG.

Ymysgydwch o'ch cysgadrwydd-

Yn filoedd dowch i foli Duw;

Torrodd gwawr ar flwyddyn newydd,

Gobeithiaf mai un ddedwydd yw:

Mae pob Calan fel yn gwaeddi,

A'r tymhorau bob yr un,-

Yn eu dull yn dwys bregethu-

"Derfydd dyddiau byrion dyn."

Heddyw'm gorchwyl innau dderfydd,

Alwai'n chwaneg mo'no chwi;

Drwy fy nghylch yn bur wyliedydd

A lladmerydd y bum i;

Mi fynegwn ddull y tywydd,

P'un ai teg ai garw'r gwaith,

Fel y gwypech ar obenydd

Ai addas oedd y dydd i daith.

Do, mi wyliais gylch eich drysau

Ar ryw oerion oriau hir,

Rhag i ddynion drwg eu nwydau

Dorri eich aneddau'n wir;

Tywydd garw, mwy nag oerni,

Ni wnai nhroi oddiar fy nhaith,

A chan ofal i'ch gwas'naethu

Methais gysgu lawer gwaith.

Daeth fy ystod at ei therfyn,

Darfu'm tro oddeutu'ch tre',

Un galenig wyf yn ofyn

Am fy llafur yn y lle;

Chwi sy'n meddu da a moddion-

Digon sy'n eich llety llawn,-

Gwnai ychydig o'ch gweddillion

DIC a'i deulu'n llawen iawn.

LLWYDD GROEG.

Awdl ar fuddugoliaethau diweddar y Groegiaid ar y Tyrciaid.

Llwydd, llwydd, fwyn arwydd, i fanerau-Groeg,

Hir rwyged ei llongau

Bob rhes o lu gormes gau,

Drwy'r moroedd draw a'r muriau.

"A llwydd gyfarwydd a fo

I'w Rhyddid, yn eu rhwyddo:

Na lanwed yn oleuni,

Cafn y Lloer {33} uwch cefn y lli';

Ond isel, isel eisoes

Drwy gred ymgrymed i'r Groes.

A thra tonn, Marathon, a muriau,

A rhin milwyr yr hen ymylau,

A gaent ffyniant gynt a hoff enwau,

O'u iawn barodrwydd, yn eu brwydrau,

Gwasgarer, gyrrer dan gaerau,-yn haid,

Weis Soldaniaid, isel eu doniau."

Fal hyn o bob dyffryn deg,

Ac ynys a gylch gwaneg;

O'r tyrau muriau mawrion,

Mannau dysg a min y donn,-

Y glau Awen a glywodd

Y llais, a'r adlais a rodd

Groeg hen, yn gwiriaw cynnydd

Ei golau ddawn ac ail ddydd.

Ar ystlysau ei mynyddau,

A'i ffynhonnau hoff yn unawl,

Gwelwyd chwithau, a'ch telynau,

Hen dduwiesau hoen ddewisawl;

Yn galw o'i nych i'w goleu'n ol-eich gwlad,

Ac iawn fwriad, a gwe anfarwawl.

Ac wrth wych adlais, a gwyrth eich odlau,

Cysgodolion y diwydion dadau,

Yr aml areithwyr, y milwyr hwythau,

Gwyr fu o ddinam ragoraf ddoniau,

A neidiant, beiddiant o'u beddau,-a'u plant

A iawn gynhyrfant hwy i gain arfau.

Mae Pindar, oedd gar gorwyllt,

A dawn ei gan o dan gwyllt;

Tyrt?us yn troi tuedd,

I roi clod i wyr y cledd:

"O! (meddant,) p'le mwy addien,

Yn gwrr c'oedd, nag yw'n Groeg hen?

Ein gwlad fwyn, o glod a fu,

Unwaith, yn mawr dywynnu,

Eto'i gyd ytyw a'i gwedd,

A'i rhannau yn llawn rhinwedd:

Ym mro bon y mae hir haf,

Bêr awel a byrr aeaf.

Yr haul y sy'n rheoli,

Heb roi haint, ar ei bro hi;

Mae nos, yn ei mynwesydd,

Megis chwaer ddisglaer i ddydd;

Aml y lle, ym mol ei llawr,

A mannau'r harddaf mynawr;

Hem?tus felus y fydd,

A diliau mêl ei dolydd;

A'i ffrwythydd gwinwydd, fal gynt,

Di-odid mai da ydynt.

Holl natur bur heb wyro,

Sy'r un fraint i'r seirian fro,

A phan oedd, yn hoff ei nerth,

Briod-fan pob dawn brydferth.

"Yma gwir Ryddid, a'i m?g aur roddion,

Sef celfyddydau a doniau dynion:

Rhin a roi eil-oes i'r hen wrolion,

A gair odiaethawl i'w gorau doethion,

A wnaent gynt i helynt hon-anrhydedd,

Ynt, (ddi-hoff agwedd) o tan ddiffygion."

Wrth eu haraith, effaith ddig,

Dawn y wlad, yn weledig,

Fal yspryd tanllyd o'u tu,

A wnae'n anadl enynnu,-

Gan ddangos, yn achos Ner,

A'i fendith, a'i gyfiawnder,

Y mawr fri o dorri'r d?d,

I ymroddi am Ryddid.

Pwy ar alwad, a piau wroliaeth,

Ni ddaw i'w dilyn, a nawdd o'i dalaeth,

A rhin fal arwyr yr hen filwriaeth,

Draw a hwylient i Droia ehelaeth,

Os y goll o Ryddid sy' gwaeth-na'r hen

Golled o Helen, gai hyll hudoliaeth?

Hen anghrist, un athrist oedd,

O'r tu arall i'r tiroedd,

A gododd,-gwaethodd drwy'r gad,

Ar fìloedd i'w rhyfeliad:

Un oedd o'r rhai aneddant

Uffern boeth yn ei ffwrn bant,-

Hoffai lid a gofid gau,

A'i llwydd ydoedd lladdiadau;

Seirph tanllyd, gwaedlyd eu gwedd,

Gwenwynig, (gwae anhunedd)

Ei gwallt oedd,-a gwyllt eiddig,

Rhag hedd oedd dannedd ei dig;

Ei llygaid yn danbaid des

Oedd uffernawl ddwy ffwrnes;

A'u sylwedd, o'r iseloedd,

A'u mawr lid, tra marwawl oedd.

O! pa ryfel, a'i uchel ochain,

Dial a'i ofid, a dolefain,

O'i chodiad irad yn y Dwyrain,

'Fu'r un baich i fawrion a bychain;

Baban a mam (un ddamwain) lle cafodd,

Dieneidiodd o dan ei hadain.

Ond Duw'r hedd o'i ryfedd rad,

Yn 'diwedd, roi wrandawiad

I'w blant,-pan godent eu bloedd,

Dan ofid hyd y nefoedd:

O Scio wylo, alaeth,

I'w glustiau'n ddiau a ddaeth;

A rhoes, I?r y Groes, ar gri,

Dyst eirian o'i dosturi;

D'ai'n gymorth, da borth di-baid,

Nes i ryw'r Nazareaid,

Rai marwawl, er eu muriau,

Ac erfyn eu gelyn gau.

Angylion, genadon gwynion gannoedd,

Gyrrai i'w llywiaw, y gorau lluoedd,

Rhwygent y muriau, rhoi gwynt y moroedd

I'r ddi-ofn daran, hwyl ar ddyfnderoedd,

Llu'r Proffwyd dan arswyd oedd-pan welent,

Hwy draw a gilient i eu dirgeloedd.

Yn awr (a Duw'n ei wiriaw)

Golygwn ddwthwn a ddaw,-

Pan deflir, lluchir i'r llawr

Ddu arfawg anghrist ddirfawr;

A phan gair, yn hoff ei gwedd,

Gaer enwawg i'r gwirionedd:

Drwy reol gwydrau'r awen,

Draw'r llwydd a welaf drwy'r llen;-

Llwydd oesoedd lluoedd Iesu,

Pan gant y feddiant a fu

O ddiwall wlad addewid,

Heb gaethder, llymder, na llid.

Gyrr y Dwyrain, ac oer ia diroedd

Y dwfn eira, eu di-ofn yrroedd;

Gyrr y Deau hithau ei hieithoedd,

A Gorllewin ei gorau lluoedd;

Un fwriad a niferoedd-y fawr-blaid

O Groesadiaid, ac eres ydoedd.

Bydd ar dyrau Salem furiau,

Y banerau yn ben arwydd,

I'r tylwythau, ar eu teithiau

I le'u tadau, olud dedwydd;

Ar Fosciaid y blaid heb lwydd,-dyrchefir

Ac eres welir y Groes hylwydd.

A thi, Roeg, a'th ddaear wych,

A'th awyr brydferth hoew-wych,

A welir eto eilwaith,

Fal gynt, er rhyfelawg waith,

Yn llwyddo'n fronlle addysg,

A lle llawn pob dawn a dysg;

Byddi, heb nam, yn fam faeth

I rinwedd-i wroniaeth-

I ddidwyll gelfyddydau,

Pob llwydd, a wna pawb wellhau;

I bob mad gariad gwladawl,

A fu gynt dy fwya' gwawl.

Ac iawn adferir, gwnn, dy furiau,

Dy awen, llwynydd, dy winllanau,

Dy brif-ysgolion, dirion dyrau,

Lleoedd doethion ddynion o ddoniau;

Sparta hen, Athen hithau-a gant lwydd,

A fydd ddedwydd o gelfyddydau.

Darlunir hyd ar lenni,

A mynnir, gwn, o'th meini

Gelfyddyd byd heb oedi;

Y dynion a adweini,

Yn rhediad eu mawrhydi,

Yn eil-oes, gwnn, a weli;

Eu cerf-ddelwau, lluniau llawn,

Fodd uniawn, a feddieni.

Llwydd, llwydd, a dawn rwydd, dan ryddid-eto

Iti a chalondid:

Yn y byd hwn, na boed tid

Dan nefoedd yn dynn ofid.

Ond aed (ac O! nad oeded)-lywodraeth

Ddi-ledryw gwlad Alffred,

A'i moliant i ymweled

A thir y Gryw, a thrwy Gred.

Y Rhyddid sydd gyd-raddawl,-oll hydrefn

A llywodraeth wladawl,

Sydd dda;-a chyd-gerdda gwawl

Gair yr Iesu, gwir rasawl.

A llwydd Dduw iddi, a lleoedd heddwch,

Gyrred allan o'i gaerau dywyllwch:

I ni y mae digon yma o degwch

Gael in', a'i hurddas, Gwalia'n ei harddwch;

Nes troi'n glynnau'n fflamau fflwch,-a'n creigiau,

Llonned ei dyddiau'n llên a dedwyddwch.

HAWDDAMOR.

Englynion ar agoriad Eisteddfod Caerwys, 1823.

Nawddamor bob gradd yma,-orwych feirdd,

Rhowch fyrddau 'ni wledda;

Lluman arfoll Minerfa

Sydd uwch Caerwys ddilys dda.

Bu Caerwys, er pob corwynt-a 'sgydwai

Weis cedyrn eu tremynt,-

Er braw, anhylaw helynt,

Nyth y gain farddoniaeth gynt.

Troi o hyd mae byd heb oedi-a'n isel,

Mewn oesoedd, brif drefi;

Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi,

Awr i Gaerwys ragori.

DAFYDD IONAWR.

Englyn o fawl i'r Bardd clodwiw am ei ymdrechiadau haeddbarch i ddiddyfnu yr Awen oddiwrth ffiloreg a sothach, a'i chysegru i wasanaeth rhinwedd a duwioldeb.

Yr Awen burwen gadd barch,-unionwyd

Gan IONAWR o'i hamharch;

Hefelydd i glaf alarch

A'i mawl yw yn ymyl arch.

GWYL DDEWI.

Penhillion a ddatganwyd yn Nghymdeithas Gymroaidd Rhuthyn, Gwyl Ddewi, 1823.

T?n,-"Ar hyd y Nos."

Trystio arfau tros y terfyn,

Corn yn deffro cawri y dyffryn,-

Tanio celloedd-gwaed yn colli,

Yn mro Rhuthyn gynt fu'n peri

I'r ael dduo ar Wyl Ddewi,

Ar hyd y nos.

Heddyw darfu ystryw estron,

Ellyll hwyr, a chyllill hirion;

Saeson fu'n elynion inni,

Heno gwisgant genin gwisgi-

Law-law'n dawel Wyl ein Dewi,

Ar hyd y nos.

Clywch trwy Gymru'r beraidd gyngan

Rhwygo awyr a goroian-

Swn telynau-adsain llethri-

O Blumlumon i Eryri-

Gwalia ddywed-'Daeth Gwyl Ddewi,'

Ar hyd y wlad.

Felly ninnau rhoddwn fonllef

Peraidd lais ac adlais cydlef;

Rhaid i'r galon wirion oeri

Cyn'r anghofiwn wlad ein geni,

Na gwledd Awen bob Gwyl Ddewi,

Ar hyd y wlad.

EISTEDDFOD Y WYDDGRUG.

AT MR. E. PARRY, CAERLLEON.

Wyddgrug, Awst 16eg, 1823.

Goroian! goroian! Mr. Parry anwyl. Bydd Callestr yn enwocaf o'r enwogion eto. Yr ydwyf newydd ddychwelyd o ystafell y dirprwywyr yn y Leeswood Arms, lle y cydsyniodd y gwladgarol Syr Edward Llwyd i gymeryd y gadair yn ein Heisteddfod; a rhoddodd £5 at ddwyn y draul. Gosododd y mater o flaen yr uchel-reithwyr (grand jury) am y Sir, a thanysgrifìodd pob un o honynt bunt, gydag addaw ei noddi. Taflodd yr Uchel-sirydd ei deir-punt at y draul, gan addunedu, er mai Sais oedd, y byddai iddo noddi athrylith gwlad ei henafiaid hyd angeu. Dyma ddechreu yn iawn onide! Bellach, fy nghyfaill, ni raid i chwi wrido wrth son am eich sir gynhennid. Mae tan yn y gallestr, ac wedi ei tharaw o dde, hi a wna holl Gymru "yn brydferth goelcerth i gyd." Gosododd Callestr yr engraifft i holl siroedd eraill Cymru, trwy gymeryd y peth yn orchwyl y sir, yn y cyfarfod uchaf sydd ganddi.

Nid oeddym ar y cyntaf yn meddwl ond am un bunt yn wobrau am y cyfansoddiadau goreu; maent yn awr wedi eu codi i bump, a disgwylir pan y cyferfydd y dirprwywyr nesaf y gellir eu hychwanegu eto. Dyna'r pryd y llwyr benderfynir ar y testynau, yr amser, y barnwyr, a'r gwobrau; a byddaf yn sicr o anfon rhai o'r hysbysiadau argraffedig yn gyntaf oll i fy nghyfaill caredig a gwresog o Gaer, heb ddymuno mwy na'i weled yn ymgeisiwr llwyddianus.

Mi a glywais fod Mrs. Parry a'i mab yn iach galonnog.-Dyma i chwi ychydig rigwm a gysoddais wythnos neu ddwy yn ol, ar destun a mesur can ragorach y doniol Erfyl. Chwi a welwch wrthi mai amcan at annerch y "gwr ieuanc dieithr" ydyw, fel pe buaswn wyddfodol.

Henffych, amhrisiadwy drysor,

Blaenffrwyth y serchiadau mad;

Ni fedd natur bleser rhagor

Na theimladau mam a thad.

Wrth olygu'th wyneb siriol,

Gaiff dieithr godi ei lef,

'Mhell uwchlaw syniadau bydol-

Erfyn it' fendithion Nef?

Nid am gyfoeth, clod, na glendid

Caiff fy nymuniadau fod;

Dylai deiliaid tragwyddolfyd

Gyrchu at amgenach nod.

Boed i'th rudd sy'n awr a'i gogwydd

At y bur dyneraidd fron,

Ddangos oedran diniweidrwydd,-

Gwisged bob lledneisrwydd llon.

Dy wefus sydd wrth ei chusanu

'N ail i rosyn teg ei liw,-

Boed i hon yn ieuanc ddysgu

Deisyf am fendithion Duw.

Na wna achos wylo defnyn

O'r llygaid 'nawr mewn cwsg sy'n cloi,

Ond i dlodi dyro ddeigryn

Os na feddi fwy i'w roi.

Dy ddwy law, sy'n awr mor dyner,

Na bo iddynt gynnyg cam;

Ond rho 'mhleth i ddweyd dy bader

Ac i ofyn bendith mam.

Na boed gwên dy wyneb tirion

Byth yn gymysg gyda thrals,

Ac na chaffo brad ddichellion

Le i lechu dan dy ais.

Na boed byth i'th draed ysgogi

Oddiar ffordd ddaionus Duw:

Er ei chau a drain a drysni-

Llwybr i'r Baradwys yw.

Boed i'th riaint fyw i'th arwain

Gam a cham ar lwybrau gwir;

Na foed arnat ras yn angen

Tra yma yn yr anial dir.

Yr ydwyf yn gyrru eich llyfrau yn ol, gyda'r diolchgaiwch gwresocaf am eu benthyg. Yn y sypyn, hefyd, cewch hen ysgrif-lyfr, haws ei ddeall na'r llall: mynnwn gyfeirio eich sylw at y "Cywydd i law merch," ac ni chewch eich siomi. Mae beirniaid da wedi meddwl mai llaw ysgrifen SION TUDUR ei hun ydyw y llyfr hwn, ond prin y gallaf goelio hynny. Yn Rhuthyn y prynais i ef, am 1s. 6c. 'Digon o newid arno,' meddwch chwithau. Pe meddyliwn na byddai yn bechod anfaddeuol, gormeswn ar eich tiriondeb ymhellach, a gofynwn am fenthyg Transactions of the Cymmrodorion, yn ol gyda'r dygiedydd. Yr ydwyf, ar ddymuniad gwr Eglwysig, yn bwriadu cyfieithu "Hanes y Cymry, o farwolaeth Llewelyn hyd eu hundeb a Lloegr."

Maddeuwch fusgrellni fy llythyr,-yn wir mae gorfoledd am lwyddiant ein Heisteddfod wedi fy nghymysgu yn llwyr, fel na wn pa beth a ysgrifenais.

"RHYWUN."

Clywais lawer son a siarad

Fod rhyw boen yn dilyn cariad;

Ar y son gwnawn innau chwerthin

Nes y gwelais wyneb Rhywun.

Ni wna cyngor, ni wna cysur,

Ni wna canmil mwy o ddolur,

Ac ni wna ceryddon undyn

Beri im' beidio caru Rhywun.

Gwyn ac oer yw marmor mynydd,

Gwyn ac oer yw ewyn nentydd;

Gwyn ac oer yw eira Berwyn,

Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.

Er cael llygaid fel y perlau.

Er cael cwrel yn wefusau,

Er cael gruddiau fel y rhosyn,

Carreg ydyw calon Rhywun.

Tra bo clogwyn yn Eryri,

Tra bo coed ar ben y Beili,

Tra bo dwfr yn afon Alun,

Cadwaf galon bur i Rywun.

Pa le bynnag bo'm tynghedfen,

P'un ai Berhiw ai Rhydychen,

Am fy nghariad os bydd gofyn,

Fy unig ateb i fydd-Rhywun.

Caiff yr haul fachludo'r borau,

Ac a moelydd yn gymylau,-

Gwisgir fi mewn amdo purwyn

Cyn y peidiaf garu Rhywun.

MAES GARMON.

Rhagymadrodd.

Boed Hector flaenor a'i floedd,

Eirf Illium a'i rhyfeloedd,

Groeg anwar mewn garw gynnen,

Bynciau y per Homer hen;

Hidled Virgil, wiwged was,

W?n awen uwch ?neas;

Gwnaed eraill ganiad eurwedd

Am arfau claer,-am rwyf cledd,

Byllt trwy dan gwyllt yn gwau,

M?g a niwl o'r magnelau;

Brad rhyw haid, a brwydrau hen,

Oes, a phleidiau Maes Flodden; {45a}

Gwarchau, a dagrau digrawn,

Cotinth a Valencia lawn, {45b}

Eiliant bleth, a molant blaid

Gywreinwych ei gwroniaid.

Mae gennyf yma i ganu

Fwy gwron, sef Garmon gu;

Ag eirf dig eu gorfod oedd,

Gorfodaeth braich gref ydoedd;

Hwn gadd glod a gorfodaeth

Heb ergyd na syflyd saeth;

I lu duwiol a diarf

Yn wyrth oedd,-ac heb nerth arf;

Duw yn blaid, a wnae eu bloedd

Heibio i ddawn y byddinoedd.

Hwyrddydd ar y M?r.

Y dwthwn 'raeth cymdeithas

Gwyr Rhufain, o Frydain fras,

Ar hwyrddydd o ryw harddaf,

Mwyna 'rioed yn min yr haf;

E giliai'r haul, glauar hin,

Ag aur lliwiai'r Gorllewin;

Goreurai gyrrau oerion,

Ferwawg a del frig y donn;

Holl natur llawen ytoedd,

Yst?r, na dwndwr, nid oedd;

Ond sibrwd deng ffrwd ffreudeg

Llorf dannau y tonnau teg;

A'r tawel ddof awelon,

Awyr deg ar warr y donn;

T?n ar d?n yn ymdaenu,

Holl anian mewn cyngan cu,

Gwawr oedd hyn, a gyrr i ddod,

Ac armel o flaen gwermod;

Cwmwl dwl yn adeiliaw,

Oedd i'w weled fel lled llaw.

Tymhestl.

Ael wybren, oedd oleubryd,-a guddid

Gan gaddug dychrynllyd,-

Enynnai yr un ennyd,

Fel anferth goelcerth i gyd.

M?r a thir a'u mawrwaith oedd,

Yn awr, fal mawr ryfeloedd;

Mawr eigion yn ymrwygo,

Ar fol ei gryf wely gro;

Archai-gan guro'i erchwyn,

A'i dwrw ffrom-dorri ei ffrwyn;

Ymwan Udd {47} uwch mynyddoedd,

At y Nef yn estyn oedd;

Dynoethid yna weithion,

Draw i'r dydd, odreu'r donn;

Dodwodd y cwmwl dudew

Ei genllysg i'r terfysg tew;

A'r gwyntoedd rwygent entyrch,

Neifion deifl i'r Nef yn dyrch;

Deuai nos i doi y nen,

Duai'n ebrwydd dan wybren;

Ac o'r erchyll dywyll do

Tan a mellt yn ymwylltio;

Taranent nes torwynnu

Y llynclyn diderfyn du.

Yn mysg y terfysg twrf-faith

Gwelid llong, uwch gwaelod llaith,

Yn morio yn erbyn mawr-wynt,-

M?r yn dygyfor, a'r gwynt

Wnai'r hwyliau'n ddarnau'n ei ddig,

A'r llyw ydoedd ddrylliedig;

Mynedyddion mwyn doddynt,

Eu gwaedd a glywid drwy'r gwynt;

Llef irad a llygad lli,

Y galon ddewra'n gwelwi;

Anobaith do'i wynebau,

Ac ofn d?r y gwyllt-f?r gau,

Gwynnodd pob gwep gan gynni,-

Llewygent,-crynent rhag cri

Gwylan ar ben'r hwylbren rhydd,

"Ysturmant yr ystormydd!"

A mawrwych galon morwr,

Llawn o dan, droai'n llyn d?r;

Llw fu'n hawdd, droe'n llefain O!

A chan elwch yn wylo.

Garmon a Bleiddan.

Yn mawr swn ymrysonau

'R tro, 'roedd yno ryw ddau

Llon hedd ar eu gwedd hwy gaid,

A chanent heb ochenaid:

Un Garmon, gelyn gormail,

A Bleiddan ddiddan oedd ail;

Gwelent drigfannau gwiwlon,

Ac iach le teg, uwchlaw tonn,-

Lle nad oes loes, fel isod,

Nac un westl dymestl yn dod;

Eiddunent hwy Dduw anian,-

Traethaf a gofiaf o'r gan.

"Hyd atad, ein Duw, eto,

Dyneswn, edrychwn dro;

Rhown i ti, rhwng cernau tonn,

Hael Geli, fawl o galon;

Rhued nawf, nis rhaid i ni,

Uwch ei safn, achos ofni:

Y lli dwfr sy'n y llaw dau,-

Dy law, 'n Ion, a'n deil ninnau.

"Ti yw arweinydd y taranau,

Tefli y sythion fellt fel saethau,-

Gan roi, a dwyn, dy ffrwyn yn ffroenau

Anwar dymestl,-mae'n wir diamau:

Yng nghynnen yr elfennau-rhoddi'r gwynt,

Gelwi gorwynt,-neu gloi ei gaerau.

"Y m?r uthr udawl, a'i dra mawr ruthriadau,

Y sydd fel moelydd uwch y cymylau;

Yr wyt ti, Ynad, ar warr y tonnau,

Yn trefnu hynt y chwerw-wynt i chwarau;

Cesgli'r gwynt chwyrn i'th ddyrnau,-yn sydyn,

Arafa wedyn bob cynhyrfiadau.

"Pa ragor in' for yn fedd

Na gwaun dir i gnawd orwedd?

Cawn i'th g?l o farwol fyd,

Yn nydd angeu'n hawdd ddiengyd,-

Mae'n calon yn boddloni

I uniawn drefn Un yn Dri."

Pan ar ben gorffen y gan

Y terfynai twrf anian;

Clywai'r Un sy'n cloriannu

Rhawd, o'r ser i'r dyfnder du:

Arafodd, llaesodd y lli,

Trychineb, a'r trochioni;

M?r a nen ymyrrai'n ol,

I ddistawrwydd ystyriol;

Deuai hwyl a da helynt

Y donn yn gyson a'r gwynt;

Mewn un llais rhoent hymnau'n llon,

I'r hwn a roes yr hinon;

Yna y chwai dorrai dydd,-

Dyna lan Prydain lonydd.

Doe'r llong, ar ddiddan waneg,

I ben y daith-Albion deg.

Prydain yn 429.

H?l Gomer yr amser hyn,

Oedd o nodwedd anhydyn;

Amryw nwyd wnae Gymru'n waeth,

Mawr gynnen, a Morganiaeth;

Gwyr digariad i'w goror,

Lanwai a cham, lan a ch?r:

Rhai ffol yn cymysgu'r ffydd

A choelion am uchelwydd;

Gwadu Crist, neu gydio'u cred

Ar glebr am "dreiglo abred";

Pictiaid, Ysgotiaid, weis cas,

Ruthrent, lunient alanas;

A Phrydain heb undeb oedd,

Na llyw wrth ben ei lluoedd;

Y llysoedd, yn lle iesin

Farnu gwael, oe'nt defyrn gwin;

Brad amlwg, a brwd ymladd,

Gorthrech, cri, llosgi, a lladd,

Wnae Albion,-a'u troion trwch

Yn ail i ryw anialwch.

Taith y ddau.

Y teulu apostolaidd

Eu bron, cyn gorffwyso braidd,

Drwy'r wlad, ar waith clodadwy

Eu Tad, ymegnient hwy.

Gan foreu godi,-rhoddi'n rhwyddion

Fyrr o Gilead wrth friwiau gwaelion;

Digyrith bleidio gwirion-rhag gwrthdrin,

Rhoi llaeth a gwin i'r llwythau gweinion.

Cynhadledd a'r Morganiaid.

Iselaidd furiau Salem

Godent, ac urddent a gem;

A gem y ddau ddegymydd,

Fu aur a ffurf y wir ffydd;

Gemau'r gair, disglair, dwys,

Yw parwydydd Paradwys;

Er gogan, a phob anair,

Dysgent, pregethent y gair,

Nes cwnnu'r llesg gwan o'r llaid,-

Taro'r annuw trwy'r enaid:

Lle blin a hyll o'u blaen oedd,

Ail Eden o'u hol ydoedd;

O flaen rhain, diflannu'r oedd

Heresiau mwya'r oesoedd;

Tost iawn chwedl i genedl gam

Fu'r holiad yn Verulam:

Ugeiniau o'r Morganiaid,

Ddynion blwng, oedd yno'n blaid:

Llwyddai Ion y dynion da,

Er c'wilydd Agricola;

Ar air Ion, i lawr yr aeth

Muriau gweinion Morganiaeth.

Dynion oedd dan adenydd-ystlumaidd

Gwestl amhur goelgrefydd;

Ymagorai'r magwrydd,

Gwelen' deg oleuni dydd.

Morganiaid er mawr gynnwrf,

Hwynt yn eu llid droent yn llwfr;

Yna'r dorf anwar a dig,

At y gwyr godent gerrig,-

A mynnent bwyo 'mennydd

Y rhai ffol fu'n gwyro'r ffydd!

Ond y graslon Garmon gu

A ataliodd y teulu:

Bleiddan, ar hynny, bloeddiai,-

"Clywch! eon, ry eon rai!

Pwyllwch, arafwch rywfaint!

Godde' sy'n gweddu i saint;

I'n Duw y perthyn dial,-

I'r annuw ein Duw a dal;

Par ei farn am bob rhyw fai,

Llaw dialedd lle dylai.

Ond cafodd fodd i faddau,-

Drwy gur un-gall drugarhau;

Y garw boen, hyd gaerau bedd,

Agorai gell trugaredd;

A'n harch gwir, i lenwi'r wlad

Yn farn am gyfeiliornad,

Yw troi, o ras ter yr Ion,

Galonnau ein gelynion

I droedio wrth ddeddf dradoeth;

Dyn yn ddwl,-Duw Ion yn ddoeth.

Felly yn awr, dan wawr well,

Pob un ant tua'u pabell;

Nef uchod rhoed Naf i chwi,-

Mewn heddwch dychwelwch chwi."

Tra llefarodd, troell fawrwych

Anian droes yn iawn ei drych;

Y dymer ydoedd dwymyn

Dda'i yn ei lle,-toddai'n llyn.

Gwelent ei drwg-amlwg oedd,

A'u llid-mor fyrbwyll ydoedd;

Ust! tawelynt drwyddynt draw,

O dawelwch, doi wylaw.

'Nawr o'u dwrn yn ara' deg

Parai gwir gwymp i'r garreg;

Trwst y main, a'r ubain rhwydd

Dwys, a dorrai'r distawrwydd.

Yna'r gynulleidfa'n llon

Ddychwelent-(gwedd a chalon

Eto'n awr yn gytun oedd,)

Law yn llaw, lonna lluoedd.

Cyrraedd Ystrad Alun.

Dau gennad gwyn! Wedi gwyl

Hwy gyrchent at eu gorchwyl.

Llafurient a'u holl fwriad,

Dan I?r i oleuo'r wlad;

A'i dwyn hi dan ordinhad

Da reol, o'i dirywiad;

Dan y gwaith heb lid na gwg,

Trwy erlid, ymlid amlwg,

Doent wrth deithio bro a bryn,

I olwg Ystrad Alun;

Elai'r gwyr, gan eilio'r gan,

Drwy Faelor, oror eirian.

Hwyr hithau ddwyrai weithion,

Llwydai fry ddillad y fron;

Ucheron, {53} uwch ei chaerydd,

A'i t'wysai, pan darfai dydd;

Y lloer, a'i mantell arian,

Ddeuai un modd, yn y man;

Daeth o le i le fel hyn

Y faith yrfa i'w therfyn;

Nawdd Ior, ac arweinydd ddug

Y rhwyddgraff ddau i'r Wyddgrug:

Lletyent mewn lle tawel,

Trigle dêr a mangre mêl;

Lle addas y lluyddwr

Rhufon, oedd yn union wr;

Un crefyddol, dduwiol ddawn,

Doeth, a'i gyfoeth yn gyfiawn;

Iachawdwr, a braich ydoedd,

Ac anadl ei genedl oedd;

I'w ardal deg, ateg oedd,

Llywiawdwr ei llu ydoedd;

Dau noddwr duwinyddiaeth,

Arfolli, noddi a wnaeth;

Eu siarad, am rad yr oedd,

A mesurau'r amseroedd;

Gwael greifion y goelgrefydd,

Rhannau a ffurf yr iawn ffydd;

A bro a'i hedd i barhau,

Uwch annedwydd och'neidiau;

Y duwiol hyfrydol fron

Ddiddenid a'u 'mddiddanion;

Rhufon er hynny'n rhyfedd,

Oedd o ddirgel isel wedd;

Son am loes sy'n aml isod,

A chael rhan uwchlaw y rhod,

Wnae'i fron der, yn nyfnder nod,

Chwyddo o ebwch ddiwybod;

Ei deg rudd, lle gwelwyd gwrid,

A ddeifiodd rhyw ddu ofid;

A dygai'r llef y deigr llaith

I'r golwg, 'nawr ac eilwaith.

'Roedd gwaelod y trallod trwch

I wyr Gallia'n ddirgelwch;

Hwy sylwent mai isel-wan

A dwl, oedd ei briod lan;

Beth fu'r anferth ryferthwy

Ni wyddent-ni holent hwy.

Yna, a'u bron heb un braw,

Hwy wahanent i hunaw;

Pwys y daith, mor faith a fu,

A'i gwasgodd hwynt i gysgu:

Edyn Ion, rhag troion trwch,

A'u mantellynt, mewn t'wllwch.

Yn bur a gwyneb araul,

Cwnnu yr oedd cyn yr haul

Y ddau deg, ddifreg o fryd,

A Rhufon hawddgar hefyd;

Rhodient i wrando'r hedydd

Gydag awel dawel dydd,

Hyd ddeiliog lennydd Alun,

I weld urddas glas y glyn;

Clywent sibrwd y ffrwd ffraeth

Yn dilyn hyd y dalaeth;

Y gro man ac rhai meini,

Yn hual ei hoewal hi.

Agorir dorau goror y dwyrain,

Yna Aurora sydd yn arwyrain;

Nifwl ni 'merys o flaen ei mirain

Gerbyd llachrawg, a'i meirch bywiawg buain,

Ewybr o gylch y wybr gain-teifl gwrel,

A lliwia argel a'i mantell eurgain.

Yna deffrodd awelon y dyffryn,

Ae' si trwy y dolau'n Ystrad Alun;

Haul drwy y goedwig belydrai gwed'yn,

Bu i Argoed hirell, a brigau terwyn,

D'ai lliw y rhod oll ar hyn-fel porffor,

A goror Maelor fel gwawr aur melyn.

Ar ei hadain, y seingar ehedydd

Fwria'i cherddi i gyfarch y wawr-ddydd;

Deffroai gantorion llon y llwynydd

I bereiddio awelon boreu-ddydd,-

A pher wawd i'w Creawdydd,-trwy'r wiw-nen,

O ferion awen,-am foreu newydd.

Bwrid ar hyn heb eiriach,

Ganiadau o bigau bach;

Eu glwys-gerdd lanwai'r glasgoed,-

Caniadau rhwng cangau'r coed;

Gwna bronfraith dasg ar las-gainc,

Trwsio'i phlu a chanu'i chainc.

Yna llon ganai llinos-i gynnal

Cerdd geinwech yr eos,

Ymorau heb ymaros,

I Geli am noddi'r nos.

A seiniai, pynciau pob pig

I'w Creawdwr caredig;

Nes yr aeth yn mhen ennyd

Yr wybr fan yn gan i gyd.

Esgynnent, troent eu tri

I balawg Fryn y Beili,

I weld y wlad,-ferthwlad fau,-

Rhedai Alun trwy'i dolau

Dyffrynol, breiniol a bras,

Oll yn hardd a llawn urddas;

Duw Celi oedd gwedi gwau

'N gywrain eu dillad gorau;

Deor myrr, neithdar, a mêl,

Yn rhywiog a wnae'r awel;

Aroglai'r manwydd briglas,

Y bau a'i chwrlidau'n las;

A diffrwyth lysiau'r dyffryn

Gwlithog, fyrdd, mewn gwyrdd a gwyn.

Ebrwydd, y corn boreubryd

Alwai 'ngwrth y teulu nghyd;

Teulu y castell telaid,

'Nol porthi, mewn gweddi gaid.

Rhufon a yrrai hefyd

Efo'r gweis, trwy'r fro i gyd,

Am neges em enwogion

I weled tir y wlad hon,-

Yr eilient yn ochr Alun

Araeth am gadwraeth dyn;

A'u bod am weini bedydd

Yn ael y dwfr, ganol dydd;

Ag awydd ferth, gweddai fod

Bawb ynaw a'u babanod;

Mai bechan y Llan oll oedd

I gynnwys amryw gannoedd.

Gofid Rhufon.

Felly aent o'r arfoll hon

Eu tri, i'r gerddi gwyrddion;

Mawl i Dduw roent mewn teml ddail,

Gwedi 'i gwau gyda gwiail;

Ei lloriau, a gleiniau glwys,

B'rwydid fel ail Baradwys;

Sonient, with aros yno,

Am och a brad,-am uwch bro,-

Lle na ddel gwyll neu ddolef,-

Am urdd yn Nuw,-am ardd Nef,-

Gardd o oesol radol r?n,

A'i haberoedd yn bur-win.

Rhufon, dan ofid rhyfawr,

Ni ddywedai-ofynnai fawr;

Danghosai' liw, nid gwiw gwad,

Loes erwin uwchlaw siarad;

O'r diwedd, 'nol hir dewi,

Ochenaid, a llygaid lli,

A'i ddagrau, fel rhaffau'n rhydd,

O'i lygaid yn wlawogydd,-

Tan grynnu'i fant yn graen, fo

Gwynai alaeth gan wylo,

"Enwogiawn, mi wn agos

Rhaid i 'null ar hyd y nos

Ddangos fod saeth gaeth, a gwg,

Drwy'r galon draw o'r golwg;

Y ngrudd gref, lle gwingodd graid,

Llychwinodd aml ochenaid;

Grym y groes, a dagrau'm gwraig,

Dyrr wên y diarynaig.

Mynegaf i'm henwogion

Hanes fy mriw-naws fy mron,

A'r achos o'm hir ochi,-

Yr oedd mab iraidd i mi;

Delw i'r holl ardaloedd,-

Eu tegwch a'u harddwch oedd;

'R oedd ei rwydd daclusrwydd clau,

A'i lun nerthol yn wyrthiau;

A gwên hoff lawen a fflwch,

Ireiddiwch ar ei ruddiau.

"Dau lygad ei dad ydoedd,

Un enaid a'i enaid oedd;

Rhyw adyn ei rwydo wnaeth

A'i swynion, i gamsyniaeth,-

Un tonnawg anghytunol

Droes allan, a phagan ffol;

Ac oerodd ei holl gariad

At wir Duw,-at eiriau'i dad;

Hynny fagodd genfigen,

Yr un dydd yn ei fron denn,-

Lle cadd hen genfigen faeth,

Ddylanwodd o elyniaeth,-

Ae'n greulon, anfoddlon fab,

Fu'n war anwyl ireiddfab;

Y diwedd oedd-gadodd ef

Mewn gwg,-huddwg ei haddef,

Gan addaw dod, diwrnod du,

A dialedd i'w deulu;

Gwauai y dwrn,-rhegai' dad,

O'm Duw! fath ymadawiad!

Er gwae im', rhwygai ymaith-

Na ?yr ond Ion ran o'i daith;

Nis gallaf, dan drymaf dro,

Ond trist ruddfanu trosto.

"O'r diwrnod bu'r du ornwaith,

Ni chenais, ni cherddais chwaith,-

Picellau drwg ofnau gant,

Y fron wirion fraenarant:

Na welir hwn, wylo'r wyf,-

Ac wylo rhag ofn gwelwyf

Etifedd gwae! tyfodd gw?n

Diymarbed i'm herbyn;

Funud ni phrisiaf einioes,-

Aeth yn faich holl ddwthwn f'oes!

O Angeu! torra f'ingedd,

'Rwy'n barod, barod, i'm bedd."

Eto y toddai natur

Yn ddagrau fel perlau pur;

Delwai, mudanai'r dynion,

Gyda'u brawd gwaedai eu bron;

Pwyntient fys at lys hael I?n-

Lle o allu ellyllon.

Synnent, ac edrychent dro,

Eilwaith cymysgent wylo:

Addysgid y ddau esgob

Felly'n null cyfeillion Iob;

I ganfod fod llym gwynfawr

Bwysau ei ofidiau'n fawr.

Y Gynulleidfa.

Ar hyn d'ai gwas addas wedd,

Mynegai mewn mwyn agwedd,

Fod nifer, yr amser hyn,

Ar ddolau iraidd Alun;

A'u disgwyliad dwys gwiwlon

Am glywed clau eiriau'r I?n.

Sychu oedd raid y llygaid llaith,

O fwriad at lafurwaith:

O'r deildy tua'r doldir

Yr elent hwy trwy lawnt hir;

A gwelent war, liwgar lu,

Yn gannoedd yno'n gwenu.

O ddisgwyl y ddau esgawb,

A gwyneb pur gwenai pawb,

O oedran diniweidrwydd,

Y'mlaen, hyd i saith-deg mlwydd;

Rhai ieuainc, mewn chwidr awydd

Yn chwarau ar geinciau gwydd;

Arafaidd d'ai'r gwyryfon,

Yn weddaidd, llariaidd a llon;

Oeswyr, a phwys ar eu ffyn,

Hulient dorlennydd Alun;

Doethaidd eu dull i'r dwthwn,

Eistedd wnai'r gwragedd yn grwn;

Pob mam lan a'i baban bach,

Ryw hoenus,-a rhai henach,

A geisient gael eu gosod

Dan sancteiddiol nefol n?d;

'Nawr mewn trefn, tu cefn i'r cylch,

Gan ymgau'n gain o amgylch,

Y deuai holl wrandawyr

Y graslon enwogion wyr.

Ar ddeulin yr addolynt

Yr Oen hoeliwyd, gablwyd gynt;

A Bleiddan, drwy fwynlan fodd,

Ar Dduw a hir weddiodd;

Eiddunodd newydd anian,

A mawr les, i Gymru lan;

I beri hedd, nes byrhau

Ochain hon a'i chynhennau,-

A throi i'r wir athrawiaeth

Rai'n ol, ar gyfeiliorn aeth;

Ac yna, na cha'i Morganiaeth,-na gwenwyn

O geuneint Derwyddiaeth,

Fwrw'u dilyf ar dalaeth,

Yn hwy'n lle manna a llaeth.

Bedyddio wnaent-(byd dd'ai'n wyn)

Wyr mewn oed,-rhai man wedyn;

Yna'r sant 'nol gweini'r swydd

Ystyriol-mewn distawrwydd,

Yn ei wisgoedd wnai esgyn

I ochr llethrawg, frithawg fryn;

Ac eurmyg lleuai Garmon,

A'i dafod aur, eiriau'r Ion;

Gwrthbrofi, dynodi wnaeth

Amryw gynneiddf Morganiaeth;

Mor ffraeth ei araeth euraidd,-

Enaid a grym hyd y gwraidd;

Y llu ddaeth i gablu gwyr,

Hwy ddeuent yn weddiwyr:

Trwy'r gair llym y troir gerllaw

Annuwiolion i wylaw;

Pan felltenai Sinai serth

I gydwybod,-gwaed aberth

Wna'i fellten a fa'i wylltaf

Ddiffodd, yn hedd ffydd yn Naf;

Agorai wefus gwrel,

A'i fant a ddyferai fêl;

Drwy lawn gainc, darluniai gur

Tad a Cheidwad pechadur,-

Yr iawn a ro'es, drwy loes lem,

Croeshoeliad Oen Caersalem;

Ban dug, trwy boenau dygyn,

Fodd i Dduw faddeu i ddyn;-

Ei araeth gref am wyrth gras

Wnai un oer bron yn eirias.

Dychryn y ffoaduriaid.

Ynghanol y dduwiol ddysg,

Clywid cynnwrf, twrf terfysg;

Llefau galar gyda'r gwynt,

Sitwyr yn neshau atynt!

Ar hyn, dyna ofngar haid

O derydd ffoaduriaid,-

Lu gwael o liw-ac ael wleb,

A gwannaidd oedd pob gwyneb:

"Daeth," dyhenent d'wedent hwy,

"Awr hyf warth a rhyferthwy;

Mae Saison, anunion wyr,

A brathawg lu y Brithwyr,

A'u miloedd dros dir Maelawr,-

Gwelsom fin y fyddin fawr!

Temlau a thai llosgai'r llu-

Nen a magwyr sy'n mygu;

Ha! erlidiant ar ledol

Y rhai ddaeth yn awr i'r dd?l;

Clywch d?n anhirion eu nad,

Ffown, ffown! am amddiffyniad."

Y gair, fel loes gwefrawl, a

Darfodd pob rhan o'r dyrfa;

A chwerw nod dychryniadau

Oedd yn eu gwedd hwy yn gwau;

Mewn ofnawl, ddidawl ddadwrdd,

Mynnent ymroi, ffoi i ffwrdd;

Ond Rhufon, drwy fwynlon fodd,

Un teilwng, a'u hataliodd-

Nad oedd y fyddin, erwin hynt,

Eto yn agos atynt:

Enynnodd aidd hen anian

Y milwr dewr, mal ar dan.

Milwr a Sant.

"Rhyfel!" dolefai Rhufon,

Ag araul fryd gwrol fron,

"Heddyw fy hen gleddyf hir,

I ddwyn aeth a ddyncethir;

Gwnaf wyrthiau trwy gnif erthwch-

Gwnaf weld eu llu'n llyfu'r llwch;

Codwn, arfogwn fagad

O wrol wych wyr y wlad;

A'm milwyr a'u hymwelant,

Pob gwr fydd gonc'rwr ar gant;

Wyf Rufon, er f'oer ofid,

A ddeil arf drwy dduwiol lid;

Terwyniant ein tariannau

Ni ddeil bron y galon gau;

Heno o'u balch lu, ni bydd

Un i leidio'n haelwydydd;

Trwy ryfel dihefelydd,

Ac enw Duw,-cawn y dydd!

Y'mlaen! pur yw'n hantur hon!"

"Arafa, danbaid Rufon!"

Eb Garmon,-"Er pob gormes

Yn fur prawf, yn farrau pres,

Mae telid gadernid I?n

Is awyr o gylch Seion;

Ei phen a'i hamddiffynydd

Yw'r Duw sy'n Greawdwr dydd;

Ein hiawn bwys yn hyn, O bid

Ar Dduw a'i wir addewid;

A Duw a'n cyfyd ni, cofiwn,

Y diwedd o'r hadledd hwn;

"Y Duw a barai fod aberoedd

O sawr diliau, mewn cras ardaloedd,

I gynnal ei blant gannoedd,-a dwfr fal

Gwawr y grisial o graig yr oesoedd,

Ac a lywiai Iago a'i luoedd

Mawr a difraw, rhwng muriau dyfroedd,-

A Pharaoh a'i anhoff yrroedd-wnai gau

O fewn dorau y gorddyfnderoedd;

Y Duw hwnnw gyfyd hinon

Awyr dawel, o oriau duon,

Dilai gwared ei deulu gwirion

Rhag galanas a rhwyg gelynion;

Y Duw fu'n blaid Gedeon, rwystra i yrr

Yr un o'r Brithwyr wanu'r Brython."

Trwy galon Rhufon yr aeth

Cywir donau crediniaeth;

Distawodd, lleddfodd y llu,

Eu gwelw wawr a'u galaru;

Heb ddal ynni, boddlonynt

I weision Ior hwylio'r hynt.

Hwy roddent gyfarwyddyd

Am hwyl y gorchwyl i gyd.

Ag ysgafn droed i goed gwydd,

Encilient dan y celydd;

Rhufon hoff, er mwyn cloff, claf,

Anwylaidd, safai'n olaf;

A thawel gynorthwyai

Y gweinion efryddion rai.

Yn ol dod dan gysgod gwig

I gyd, ar lawr y goedwig,

Plygent lin, ac a min mel

Yn ddwys mewn gweddi isel:

Yn ysbaid hyn, os bai twrf,

Ochenaid lesg, a chynnwrf,-

Codai Garmon lon ei law,

Agwedd Ust! ac oedd ddistaw.

Er gwersi, er gweddi'r gwyr,

Er teg osteg, ac ystyr,-

Gwael agwedd y golygon

Ddwedai fraw y ddiwad fron.

Ar hyn, dyna'n syn neshau

Athrist dwrf, a thrwst arfau;

Lwyrnych estronawl oernad,

Croch gri, a gwaeddi,-"I'r gad";-

Yr waedd oedd yn arwyddaw

Fod galon llymion gerllaw:

Yna y treigl swn eu traed,

Yn frau o fewn cyrrau'r coed,-

Lleng a'u gwich am ollwng gwaed

Gwyr o ryw hawddgara 'rioed.

Adeg alarus ydoedd,

Ac awr heb ei thebyg oedd;

Awr gerth, na ddileir o go',

Ac awr calonnau'n curo;

Y goch ffriw aeth a'i lliw'n llwyd,

Dewr wedd ae'n orsedd arswyd.

Trwy'r dd?l y gelynol lu,

Groch anwar, wnai grechwenu,

Er dannod gwarth Prydeinwyr,-

(Rhy fuan gogan y gwyr.)

Gan ymnerth, ac un amnaid,

Yn llu yn awr, oll 'e naid

Y Brython,-yn llon eu llef,

Unllais, ac adlais cydlef,

Germain oedd, rho'i Garmon air,

Addasol ei ddewisair,-

Haleluia! Haleluia! lawen,

Ar y gair, ebrwydd y rhwygai'r wybren,

Creigiau,-a chwedi pob crug a choeden

Yn y dyspeidiad oedd yn d'aspeden;

A'r engyl yn yr angen-yn uno,-

A gawriai yno holl g?r y wiw-nen.

Chwai hyrddiwyd galon chwerw-ddull,

Dychrynnent, ffoent mewn ffull.

"Frithwyr ffel! beth yw'r helynt?

Dewch i gad,-ymffrostiech gynt!

Hai! ffwrdd! codwch waewffyn,

Hwi'n golofn,-dacw'n gelyn!

Ymrestrwch,-troediwch mewn trefn,

Och! enrhaith! beth yw'ch anrhefn?"

Unwaith ni wrendy'r annuw,

I'w dilyn mae dychryn Duw;

Eu heirf serth, yn y twrf sydd,

Wana galon eu gilydd;-

Astalch i astalch estyn,

A chledd sydd yng ngledd y'ngl?n.

Clywai Alun destun da,

Alawon Haleluia;

A chiliodd dros ei cheulan,-

Hi droes lif ar draws y lan;

A mynnent hwy, er maint hon,

Yn eu braw, rwyfaw'r afon:

I dawch Alun dychwelynt,-

Aeth hon fel y Gison gynt:

A mawr dwrdd-ym merw'r donn,

Cell agerdd cylla eigion:

Gwenodd Alun, gwyn ddiluw,

Gael yno dorf galon Duw;

Llafuriodd y llifeiriaint,

Gyda si, i gadw y saint;

Sugnai'r llyn y gelyn gau,

Gwingodd dan grafanc Angau.

O foreu dwl, ar fyrr daeth

Gwawr deg o waredigaeth;

'Nawr gwelai'r Cymry'r galon,

Yn soddi is dyli'r donn;

Gan wau yn dyrrau dirif,

A swn eu llais yn y llif;

Llifeiriant a i holl farrau,

Tonnau certh, arnynt yn cau:-

Nodent nad oedd mewn adwy,

Glan, na maes, un gelyn mwy;

Prin coelient-safent yn syn-

Ddolef eu ciaidd elyn.

Dyferai eu clodforedd,

Drwy'r glynnau yn hymnau hedd;

Ac yn eu plith canai plant,

Swn melus atsain moliant.

Yna'r saint mewn eres hwyl

A anerchent,-iawn orchwyl-

Araf lef i'r dyrfa lan,

Dorrent ollyngdawd eirian.

"Ein Ner, mewn blinder, fu'n blaid

I'w war union wirioniaid;

Duw'n y blwng wrandawai'n bloedd,-

Boddai yna'r byddinoedd.

"Eurawg olwynion hen Ragluniaeth,

Barai'r dolydd, y wybr a'r dalaeth,

I wyrthiol adsain germain gaeth,-Alun

Foddai y gelyn,-caem fuddugoliaeth.

"Duw Ner roes yr hoewder hwn,

I'n Duw eilchwaith diolchwn;

Llawforwyn fu'r llifeiriant,

Gyda bloedd i gadw ei blant.

"Iolwn na byddo'i wiwlwys-ogoned,

Ac enaint Paradwys,

Gilio oddiar Gwalia ddwys,

Na'u aroglau o'r Eglwys.

"Duw'r hedd fo'n eich harwedd chwi,

Drwy genedl lawn drygioni;

A chwedi oes heb loes lem,

Noswyliaw boch yn Salem."

Hwy wahanent ar hynny,

Heb wybod ofn,-bawb i'w d?;

A'r lleddf ddau genadwr llon

Draw hefyd i d? Rhufon.

Ac ar hwyl deg, yr ail dydd,

Dwyr?ent mewn dir awydd,

I rodio i lawr at ffrwd las,

Glennydd lle bu galanas:

'Nawr aber, fel arferol,

Ydoedd hi ar hyd y ddol;

Ciliai'r dylif, clwy'r dylaith,

A'i dwrf oll, pan darfu'i waith;

Dai'r ardal yn dir irdeg,

Lle berwai tonn, ddai'n llwybr teg:

Gwelent hwy, wrth geulan tonn,

Gelanedd eu gelynion;

Yn dyrrau, 'n rhesau di ri,

O'r Belan hyd i'r Beili.

Gwelai Rhufon dirionwawr,

Ar hyn, ryw lencyn ar lawr.

Ei ddull, ei wedd, a'i ddillad,

A'i lun, oedd fel un o'r wlad.

Craffai arnaw-draw fe drodd,

A lliw egwan llewygodd;

Oherwydd y tramgwydd trwm

A ddyrysodd ei reswm;

Drwy'i galon a'i dirgeloedd,

Safai bar,-can's ei fab oedd;

Ei deulu o'i ddeutu ddaeth,

Gan weled ei ddygn alaeth;

Rhoent uwch ei fab, drygfab,-dro

Eu ced olaf,-cyd-wylo;

Uchel oernych alarnad

Wrth ei ddwyn fry i d? i dad:

(Gwyddent mai dilyn geu-dduw,

A dal dig, a gadael Duw,-

Trwy lithiol rai ffol, di-ffydd,

Wnai ei ddwyn i'w ddienydd!)

Hwy ddeallent, modd hollol,

A ddwedai, 'nawr, am ddod'n ol,

Ryw ddiwrnod, a dyrnod du

Dialedd ar ei deulu.

Iddo fe gwnaed angladd fawr,

Hir wylwyd ar ei elawr:

(Mae natur bur ei bwriad

A maith ddeddf mewn mam a thad;)

Er brad, er braenaru bron

Ei rieni, rai union,-

Eto wylodd y teulu,

Am y mab, fel cynfab cu;

Ni pheidient am anffodion

A thranc gwas ieuanc, a son;

Ac a pharch gwnaent er cofthau,

Hel peraidd, lwysaidd lysiau;

Hel mwysion freila maesydd,

Hel blodau ar gangau'r gw?dd;

Hel mawr ar lili mirain,

Hel y rhos ar ol y rhain;

Hel llawryf digoll irwedd,

Hela'r bawm i hulio'r bedd:

A dagrau rhwydd, sicrwydd serch,

Mwydent, llenwent y llannerch.

Garmon, er cof mwynlon mad,

Gweddus, o'r holl ddigwyddiad,

O fewn y tir roes faen teg,

A geiriau ar y garreg;-

"Daw hinon, er llid annuw,

I'r dyn doeth a gredo'n Duw;

A dylaeth, barn, a dolef,

I'r adyn fo'n erbyn Nef."

ABERIW.

AT MR. E. PARRY.

Berriew, Chwef. 10, 1824.

ANWYL GYFAILL,

Mae ymdeithydd yn myned heibio i Lerpwl, a rhesymol i mi achub y cyfleustra i ysgrifenu at un a brofodd ei gyfeiligarwch drwy amryfal dirionderau. Chwi a welwch wrth ddyddiad y llythyr fy mod yn mhell o fangre fy mam. Daethum yma y 30ain o'r mis diweddaf, a chefais Mr. Richards a'r holl deulu yn foneddigaidd, tirion, a charedig. Mae yma dri o wyr ieuainc yn cael eu parotoi i'r Brif Ysgol,-ni welais dri erioed mor wahanol eu hansawdd a'u tymherau i'w gilydd; ond trefnodd y Rhagluniaeth y cefais fy mwrw arni o'r bru, a'r hon a drefnodd fy ngherddediad hyd yma, iddynt fy nerbyn gyfeillgarwch agos yr wythnos gyntaf o'm hainfodiad yn eu plith. Fel hyn, y mae'r coelbren wedi syrthio i mi mewn lle hyfryd o ran teulu i gyfaneddu yn eu plith, ac am gyfeillgarwch sydd fel olew i olwynion fy natur, gallaf ddywedyd "dyma etifeddiaeth deg." Pe byddai lle yn y byd a barai i mi anghofio yr aelwyd y dysgais ymgropian hyd-ddi gyntaf-y llanerchau a fuont olygfeydd fy chwareuyddiaethau plentynaidd,-neu i laesu fy hiraeth am gyfeillion lliosog a hawddgar,-ac yn bennaf oll am fy nhirionaf dad a mam, dyma'r fan debycaf oll. Ond nid hawdd datod rhwymau a gydiwyd gan serch, ac a gysegrwyd gan ffyddlondeb. Felly rhaid addef yr hyn y byddai yn ffolineb ei wadu-fod fy meddwl yn ehedfan yn fynych ar adenydd dychymyg o lannau Hafren i ochrau Alun, Clwyd, Dyfrdwy, a Mersey, lle y profais gyfeillgarwch oedd yn fêl i'm genau ac yn iechyd i'm hesgyrn. Os gwelwch chwi neb o'r hen fechgyn a ymffrostiant fod eu henwau y'nghoflyfr Gwalia,-dywedwch fy mod yn cofio atynt ac yn dymuno yn dda iddynt.

Am danaf fi, er yn rhy isel mewn sefyllfa i allu gorchymyn, ac yn rhy wael mewn dawn i allu teilyngu sylw, eto fy ymdrech pennaf hyd angeu (ni'm cyhuddir o ymffrost wrth wnenthur y broffes) fy ymdrech, yn nesaf i foddloni fy Nghreawdwr, a meithrin cydwybod dawel, a fydd trefnu fy ngherddediad fel na wnelo fy ngwlad wrido o'm harddel.

IFOR CERI.

TO THE REV. C. B. CLOUGH, MOLD.

Berriew, March 1st, 1824.

REV. AND DEAR SIR,

In Mr. Richards, my expectations have been more than realised; and I cannot sufficiently express my thanks to the Committee for selecting such a person to be my tutor. His kind solicitude for my domestic comforts, is as unremitting as his attention to my advancement in literary pursuits. His religion is so far removed from wild enthusiasm as it is from cold and affected formality. The chaste and pious manner in which he offers up the family devotions, with his Christian precepts and example, have made so deep an impression upon my mind, as will prove, I trust, to my spiritual advantage.

EMYN PASG.

Wele'r Ceidwad gaed yn Meth'lem

Acw'n marw dan ei loes,

A gwyryfon tyner Salem

'N gwlychu a dagrau droed ei groes:

Caua'r haul ei lygaid llachar

Rhag gweld clwyfo'r Sanct ei hun;

Ei ruddfanau sigla'r ddaear,

Cryna pob peth ond y dyn.

Deuwch saint, gollyngwch ddagrau

Uwch trychineb Calfari,

Dros yr hwn a roes ochneidiau

Dan y baich haeddasoch chwi;

Drosoch hidlodd ddafnau heilltion

Is arteithiau g?g y nen,

Nid o ddwfr, ond gwaed ei galon,

Yna trengodd ar y pren.

Dyma dristwch heb ei debyg,

Gras a chariad pur y'ngl?n,

Duw'r gogoniant dan y dirmyg,

Ac yn marw i brynu dyn:

Ond wele achos llawenychu!

Testun can dragwyddel fydd,-

Iesu'r Ceidwad sy'n dadebru

'N gynnar ar y trydydd dydd.

Gwelwch fel mae'n concro angau!

Syllwch ar ei ddwyfol wedd!

Grym ei fraich, a gair ei enau,

Sydd yn dryllio bolltau'r bedd:

Llengau'r nef, anrhaethol nifer,

A'i gwarchodant tua'i wlad-

Rhwygai cerddi yr ehangder,

Cerddi croeso i lys ei Dad.

Bellach, saint, eich dagrau sychwch,

T'rewch y gu dragwyddol gan,

C'weiriwch eich telynau, cenwch

Wyrthiau eich Gwaredwr glan:

Dwedwch iddo fathru'r gelyn,

'Speilio lluoedd certh di ri',

T'wyso angau du mewn cadwyn,

A chysegru'r bedd i chwi.

Bloeddiwch, 'Ryfedd Frenin Sion,

Doed y ddaear dan dy iau!

Ganwyd ti'n Waredydd dynion,

Wyt yn gadarn i iachau.'

Gofynnwch wedyn i'r anghenfil,

'Ple mae'th golyn oer yn awr?

Fedd ymffrostgar, ddu dy grombil,

P'le mae'th fuddugoliaeth fawr?'

ENGLYN I ANNERCH MISS COTTON, OFYDDES.

Eisteddfod y Trallwm, 1824.

Gwalia lwyd lonwyd eleni,-Awen

Flodeua fel lili;

Bron bun yw ei gardd hardd hi,-

Hil anwyl hael Lyweni.

"A PHA LE Y MAE." Job xiv. 10.

"Ya le y mae! ow gwae! ai gwir?

Nad yn ei dir, o dan y dail

A eiliai gynt drwy helyg ?r?-

Nid uwch ei f?r-gan d'wchu ei fail;-

Ni wela wych olygfa'r waen,

Ni swnia'i droed yn nawnsiau'r dref,

Gwych yw'r olygfa fel o'r blaen,

A dawnsia myrdd, ond ple mae ef?

Ei ddiddan Elia ddyddiau'n ol

Dywysai i'r ddol ar hwyrol hynt;

Wrth ochrau'r llyn o'r dyffryn dardd

A gwaelod gardd fe'i gwelwyd gynt;

Is gwê o fill ni wasga'r fun,

(Ei ardd a wnaeth fel gerddi nef

Ag urdd o ros). Mae'r gerddi'r un,

Ac Elia'r un-P le gwelir ef?

Fel nablau'r c?r rhoe'i gerddor gan,

O'i deithi glan, nid aeth yn gloff;

Rhaiadrau, llynnau, gwyrthiau gant,

Oddeutu ei nant sydd eto'n hoff

O'i d?-mur hwn nid yw mor hardd;

Adwyau geir ar hyd ei gae,

A gwywa'n rhês eginau'r ardd,

Ymhola mill-Y mh'le mae ef?

Mae beddfan newydd yn y Llan,

Yr aelwyd ddengys gadair wag;

Ac wrth y bedd, a'r wedd yn wan

Doluriau serch rhyw ferch a fag;

A'r ddol, lle bu yn gadu'r gwynt,

Ni wela'i lun, ni chlywa'i lef,

Bonllefau rhai a garai gynt,

Pa le maent hwy? Pa le mae ef?

GWAHODDEDIGION EISTEDDFOD TRALLWM, 1824.

Englynion difyfyr i'r Arglwyddes Clive a'i phlant.

Enynnwn i uniawn annerch-talaeth,

Am roi telaid eurferch

Montrose, mewn rhwymyn traserch

I Bowys hen-man gw?b serch.

Yr ysgeill yn ol hir wasgar-can-oes

I'r cenin sy'n gymar;

Tan wên cyd-dyfant yn war

Eu deuodd yn fri daear.

Mwy yn yr h?l, y mae'n rhaid-y rhennir

Holl rinwedd y ddwy-blaid;

Trwy eu bron, yn hylon, naid

Hen nwyfau eu hynafiaid.

Os daw rhyw haid, i rwystro hedd-ein tir,-

Nes troi ein tai'n garnedd,

Yn y ddiras gynddaredd,

Hil Clive fydd yn dal y cledd.

Ond i hedd a dyhuddiant,-i godi

Dysgeidiaeth, tueddant,

Awenyddion a noddant,

Eu hiaith hen, a cherdd, a thant.

Trwy'u diwrnod tyrred arnynt-bob undeb

A bendith-llwydd iddynt;

Anwylaidd gynnal wnelynt

Dud a gwaed hen dadau gynt.

CAROLINE.

Llinellau ar farwolaeth Miss Hughes, merch y

Parch. M. Hughes, Periglor Llanwyddelan,

Trefaldwyn.

Ceisiais dybio'r son yn anwir,

Syrthio Caroline i lawr,

Ac nad allai seren eglur,

Fachlud wedi t'wnnu ond awr:

Ond y glul ar gefn yr awel,

Swn y fron yn hollti'n ddwy,

Adsain och sy'n gwaeddi'n uchel,

Ofer anghrediniaeth mwy.

Hir y cofir y diwrnod

A esgorodd ar y gwae,

Pan y rhedai i gyfarfod

Cyfeillesau i odrau'r cae;

Blaenai'r dyrfa tu a'r annedd,

Crechwen ar ei hwyneb pryd;

Ychydig dybiai mai i'w hangladd,

'Roedd yn gwadd y cwmni ynghyd.

Gyd ag eistedd, deuai angau

'N nesu ati gam a cham,

Ac ni throi oddiar ei siwrnai,

Er gwaedd mil, er gweddi mam;

Delwai'r tylwyth gan yr alaeth,

Gwnaent ei gwely fel yn lli',

Hithau'n dawel dan yr artaith,

Pawb och'neidient ond y hi.

Pan oedd oed yn rhoddi coron

Aeddfed ar ei dull a'i dawn;

Myrrh ac olew yr Ysgolion,

Wedi'i pherarogli'n iawn;

Pob disgwyliad gwych yn agor,

Hithau'n ddedwydd yn ei rhan,

Cadd ei galw ar ei helor,-

Y swyn a dorrwyd yn y fan.

Treigliad ei golygon llachar,

Ei throediad ysgafn ar y ddol,

Corff ac enaid oll yn hawddgar,

Dynnai'r galar ar ei hol;

Ond mae tryliw rhos a lili,

Wedi gwelwi ar ei gwedd,

'N awr ni ddena serch cwmpeini

Mwy na phryfed man y bedd.

Ffarwel iddi! boed i'r ywen

Gadw llysiau'i bedd yn llon,

A gorwedded y dywarchen

Werdd, yn ysgafn ar ei bron

Sycher dagrau ei rhieni,-

Ior y Nef i'w harwain hwy,

Nes y cwrddant ryw foreuddydd,

Na raid iddynt 'mado mwy.

CYFIEITHIAD O FEDD-ARGRAFF SEISNIG.

Ty llong gadd lan, lle'r oedd fy nghais,-

O'r tonnau treiddiais trwy;

Er dryllio'm hwyl gan lawer gwynt,

Na chlywir monynt mwy.

O gernau'r 'storm ces ddod yn rhydd,

Daeth angau'n llywydd llon,

A pharodd im' mewn gobaith glan,

Angori'n 'r hafan hon.

BUGEILGERDD.

Ar d?n "Kate Kearney."

DEWI.

A welaist, a 'dwaenaist ti Doli,

Sy' a'i defaid ar ochr Eryri?

Ei llygad byw llon

Wnaeth friw ar fy mron,

Melusach na'r diliau yw Doli.

HYWEL.

O do, mi adwaenwn i Doli,-

Mae'i bwthyn wrth droed yr Eryri;

'D oes tafod na dawn

All adrodd yn iawn

Mor hawddgar a dengar yw Doli.

Un dyner, un dawel yw Doli,-

Mae'n harddach-mae'n lanach na'r lili;

'Does enw ?s nen

A swnia'n ddisen

Mor ber gyda'r delyn a Doli.

DEWI

Ow! ow! nid yw'n dyner wrth Dewi,-

'Does meinir yn delio fel Doli,

Er ymbil a hi

A'm llygad yn lli,

Parhau yu gildynus mae Doli.

Ymdrechais wneyd popeth i'w boddio,

Mi gesglais ei geifr idd eu godro,

Dan obaith yn llwyr

Y cawn yn yr hwyr

Gusanu yn dalu gan Doli.

Mae'i mhynwes mor wynned a'r eira,-

Mae'i chalon mor oered mi wiria';

Ar f' elor ar fyrr

Fy nghariad a'n ngyrr-

O oered a deled yw Doli!

Tri pheth a dim mwy wy'n ddymuno,-

Pob bendith i Doli lle delo,-

Cael gweled ei gwedd

Nes myned i'm medd,-

A marw yn nwylo fy Noli.

YR HEN AMSER GYNT.

Bu'n hoff i mi wrth deithio 'mhell

Gael croesaw ar fy hynt;

Mil hoffach yw cael "henffych well"

Gan un fu'n gyfaill gynt.

Er mwyn yr amser gynt, fy ffrynd,

Yr hen amser gynt;

Cawn wydriad bach cyn canu'n iach,

Er mwyn yr amser gynt.

Yn chwareu buom lawer tro,

A'n pennau yn y gwynt;

A phleser mawr yw cadw co

O'r hyfryd amser gynt.

Er digwyddiadau fwy na rhi',-

Er gwario llawer punt;

Er llawer coll, ni chollais i

Mo'r cof o'r amser gynt.

Tra cura calon yn fy mron,

Drwy groes neu hylon hynt,

Rhed ffrydiau serch drwy'r fynwes hon

Wrth gofio'r amser gynt.

I -

Ty anwyl ferch, delw'm serch, clyw annerch clwy enaid,

Tro'ist yn ddu'r cariad cu, a chanu'n ochenaid;

A oedd un llaw drwy'r dref draw i nharaw'n anhirion?

A oedd yn mhleth, at y peth, ddwrn yr eneth union?

Yn wir dy ?g dagrau ddwg i'r golwg o'r galon,

Oni chaf hedd af i'm bedd i orwedd yn wirion.

P'le mae'r gred, gofus ged, adduned oedd anwyl?

Ai si a siom yr amod drom unasom ryw noswyl?

P'le mae'r drem, fel gwawr gem, a luniem dan lwynydd?

Torrai'n syn swyn y llyn, y delyn, a'r dolydd:

Yn iach i'th wedd, mi wela 'medd, wan agwedd yn agor;

Dywed di, fy mun, i mi, a wyli ar fy elor?

Pan weli sail y bedd, a'r dail ar adail mor hoewdeg,

Ac uwch y tir, ysgrif hir, o'r gwir ar y garreg,-

Mai d'achos di, greulon gri, fu'n gwelwi'r fau galon;

Ai dyma'r pryd, daw gynta'i gyd, iaith hyfryd o'th ddwyfron?

Gorchwyl gwan rhoi llef drwy'r llan, troi'r fan yn afonydd,

Rhy hwyr serch felly, ferch, i'm llannerch bydd llonydd.

GADAEL RHIW.

Gofid dwys a wasga 'nghalon,

Adael Rhiw a'i glannau gleision,

Dolau hardd lle chwardda'r meillion,

A chysuron fyrdd:

Gadael mangre englyn,

Diliau mel, a'r delyn;

Gadael can gynhenid lan,

Eu cael a'u gadael gwedyn;

Gadael man na sangodd achwyn;

Ond er gadael ceinciau'i gorllwyn,-

Yng ngauaf oes fe saif Trefaldwyn,

Ar fy nghof yn wyrdd.

Trwm, rhy drwn, rhoi ymadawiad

A bro na welir cuwch ar lygad,

Na diffyg ar ei haul na'i lleuad,

I ddylu blodau fyrdd;

Troi i sych Rhydychen,

O Bowys, hen bau Awen,

Lletty hedd, a bwrdd y wledd,

Lle'r adsain bryn a chrechwen:

Gadael llon athrawon gwiwfwyn

Och! ni wn pa fodd i gychwyn. &c.

Try yr ymadawiad ysol,

Nwyf i loesau anfelusol,

Ond pa'm beiaf rhagluninethol

Anorffennol ffyrdd

Dyma law 'madawiad,

A'r llall mi sychaf lygad;

Mae'r fen gerllaw, i'm cludo draw,-

Ofer-ofer siarad;

Yn iach bob dengar gwm a chlogwyn,-

Yn iach, yn iach, gyfeillion addfwyn. &c.

RHYDYCHEN.

AT GYFAILL.

Athrofa'r Iesu, Rhydychen,

Rhagfyr 19, 1824.

Gobeithio eich bod yn myned y'mlaen gyda Lladin. Ni wyddoch pa beth a all esgor. Gallaf addaw y cewch fwy o bleser na thrafferth yn dysgu; a gwn na byddai yn boen i'ch meddwl llym chwi dreiddio iddi ar amnaid. Mi a ddatguddiaf i chwi fy amcan wrth eich cynghori fel hyn. Os gallwch, trwy eich llafur eich hun, ymhyfforddi yn yr ieithoedd dysgedig,-os addunedwch beidio croesi trothwy tafarn yn y Wyddgrug,-os peidiwch a chyfeillachu a neb ond dynion parchus, a phrin a rhai'ny,-os byddwch ddyfal yn eich sefyllfa,-os gyrrwch ambell i ddernyn i'r Eisteddfodau, er mwyn tynnu sylw,-os ymddygwch bob amser yn syml, cyson, a gostyngedig,-ac os, gyda hyn oll, y llwyddwch i dynnu cyfeillgarwch y goreu o ddynion, Mr. Clough-meddyliwn na byddai yn anhawdd nac yn dreulfawr i chwi gael trwydded yma. Y mae eich synwyr yn ormod i adeiladu dim ar hyn, nac i yngan gair yn ei gylch i gyfaill eich mynwes. Pa beth a all cardotyn fel fi ei addaw?

Byddai yn dda gennyf pe rhoddech ddiofryd cadarn na sangech ar lawr unrhyw dafarndy yn y Wyddgrug byth. Y mae fy mynwes i yn gwaedu heddyw gan y clwyfau a dderbyniais ynddynt. Ni welais gyfaill da o fewn eu muriau erioed, ac ni welais un niweidiol iawn y tu allan. Ni wna ymddygiad isel a buchedd rinweddus a duwiol eich amddifadu o unrhyw bleser teilwng o'r enw: yn hytrach gwna i'ch cwpan redeg trosodd-addurna chwi ger bron eich gwlad-a thywysa chwi at ffynnon a arllwys ei dwfr pan y bydd Alyn, a Helicon hefyd, wedi sychu. Hyderaf na ddigiwch am yr hyfder a gymerais. Gwiriaf i chwi iddynt ddylifo oddiar deimlad mor bur ag a gurodd erioed ym mynwes tad. Gwn eich bod yn agored i lawer o demtasiynau, y rhai a gynyddant po fwyaf y deloch i sylw y byd. Gwn, hefyd, fod eich cysur amserol a thragwyddol yn ymddibynnu ar eu gorchfygu. Gwyddoch chwithau fod rhan fawr o fy nghysur innau ynglyn wrthych fel cyfaill fy ieuenctyd. Bellach, ai gormod im' am unwaith ddringo Ebal? Do, fy nghyfaill, cefais i wybod trwy brofiad trist fod deniadau cyfeddach yn llymach na saethau cawr, ac yn chwerwach na marwor meryw. Mi syrthiais i ymhlith y lladdedigion. Tybiodd fy nghyfeillion ddarfod am danaf byth, a gadawsent fi i'm tynged. Ond, trwy y moddion rhyfeddaf, dywedodd y Gwr y rhyfelais yn ei erbyn, "yn dy waed bydd fyw." Cefais yn barod lawer prawf o'i diriondeb; ac nid ydwyf yn cwbl anobeithio cael, o radd i radd, fy nerbyn i'w fyddin ac i gludo ei faner. Hyd yn hyn, y mae fy mriwiau yn rhwystro imi gydio mewn arf; ac yr ydwyf yn treulio fy oes gan y mwyaf wrth odreu Sion; ac weithiau, wrth godi'm llaw at ddail y pren sydd yn iachau'r cenhedloedd, dymunwn amneidio a'r llall at fy nghyfeillion, i beri iddynt ochel y llannerch lle y derbyniais i y saeth a lynodd yn fy nghalon.

COLLEGE LIFE

TO THE REV. C. B. CLOUGH, MOLD.

Jesus College, Oxford,

December 16th, 1824.

Upon the whole, I find College life far less irksome than I had anticipated. The change, from the bosom of a family to a cloister, was certainly not very pleasant. Yet upon that account I have less to regret than many: my disposition or taste never quarrels with solitude. In one instance I was rather unfortunate.-Of the three undergraduates I knew upon my coming to College, one only was a 'reading man.' By means of the other two, as my acquaintances increased, my room became in a little time the daily resort of those most miserable and unprofitable of beings, technically called 'loungers.' This, of course, retarded my studies; and I was often compelled to sit up, after the drones had gone away, till four o'clock in the morning, to prepare my Lectures for the following day. Hints were thrown away, upon my visitors, in vain. At last I saw that either politeness or my character must be hazarded: the first was sacrificed to preserve the last. I made a candid avowal of the low state of my acquirements, and, that having so much to do, it would be madness in me to trifle my days; but if they allowed me to fix a particular hour each day, for receiving their calls, I should be most happy in seeing them. They good-humouredly assented; and from seven o'clock in the morning till eight was mentioned. I have my room to myself ever since; and this has not made them less friendly. I have seen that an extensive acquaintance is the bane of College life.

Of intimate friends, I have here only one; and he is a bosom friend, one whose intelligence, urbanity, abilities, and piety are alike conspicuous. He is a son of La Trobe, the celebrated African traveller. Unfortunately for me, he intends taking his final examination next Easter term, and will consequently leave Oxford. When he is gone, I will endeavour to replace him with another of the same stamp; and if I fail, I will turn an anchorite.

I have mixed with but very few parties; though, thanks to my fellow-collegians, I have been occasionally invited. I have adopted this course, partly from a wish of not incurring a debt, which it would be a crime in one of my station to discharge; but chiefly from a distaste of all nocturnal revels. The truth is, I never yet saw a drinking party, two hours old, that I could lay down even one of Elis y Cowper's songs, for the purpose of enjoying it.

The devotional exercises, morning and evening, are profitable and interesting; and I have an opportunity every Sunday of hearing some of the most eloquent and impressive sermons I have ever heard. Excellent opportunities are also afforded for reading. I 'sport my oak' and sit down, nothing disturbs or annoys me; and had it not been for the rumbling of carts along Ship-lane, and cries of 'muffins,' I should consider myself in a hermitage. As for temptation, it is all a bugbear. I have seen none here that would not vanish before a virtuous resolution.

AT LENOR.

(MR. E. PARRY, CAERLLEON.)

Athrofa'r Iesu, Rhydychen,

Chwefror 25ain, 1825.

Y mae yn ddywenydd mawr genyf ddeall fod eich Cymdeithas yn gwellhau yn ei hamcanion fel y mae ei gallu yn cynyddu. Hwyrach na lwyddwch i gael cyd-ymdrechiad y Boneddion a enwasoch;-rhai o herwydd eu hoerfel at yr achos Cymreig,-a llawer am fod rhannau eraill o'r wlad yn galw am eu gwasanaeth yn fwy na Chaer, un ai o herwydd cymydogaeth, neu feddiannau. Er hynny, pe na enillech ddim ond ymegniad gwresog ac unfryd trigolion eich tref eich hunain, byddai yn werth eich trafferth, a gallwch wneuthur gwyrthiau.

Y mae yr Iaith Gymraeg yn deilwng o'i choleddu, ac eneidiau Cymru yn werth eu cadw. Chwi a gewch fy nymuniadau goreu i, os ydynt werth rhywbeth, a phe byddai gennyf well, chwi a'i caech.

Buoch yn ddedwydd iawn gael Mr. Richards yn Gapelwr,-y mae'r g?r hwnnw yn addurn i bob Cymdeithas lle byddo. Yr ydwyf agos yn eddigeddu y pleser a gewch ar eich Cylchwyl, ac er hynny yn ewyllysio i chwi fil mwy. Rhaid i mi gadw gwyliau Homer ddall yn lle Dewi Sant, ac aros fel mynach yn fy nghell yn lle troedio'r heolydd i ddangos fy "nghenin," a gadael i'm henaid lesmeirio wrth gyngan y delyn. Ond rhaid boddloni, ac yr ydwyf yn foddlon ac yn ddiolchgar.

Yr oeddych yn ymholi pa fodd yr ydwyf yn byw yma.-Credwch fi,-mor syml a diniwed a Meudwy, a mor ddedwydd a Thywysog. Cof am gartref a hen gyfeillion sydd weithiau yn cynhyrfu hiraeth ynof am wlad fy ngenedigaeth, a dyna'r unig ddefnyn chwerw sydd yn fy nghwpan. Y mae penaethiaid yr Athrofa yn dirion i'r eithaf, a chyd-astudwyr mor gyfeillgar ag y gallwn ddymuno.

Yr oeddwn wedi bwriadu englynion i chwi a math o awdl i'ch Cymdeithas; ond hawdd i chwi feddwl nad oes gan un a ymunodd a'r Brifysgol y'mhen pum' mis wedi cydio gyntaf mewn Ieithiadur nemawr amser i gysoddi dim. Pa fodd bynnag, dyma ryw bethau yn llun englynion "Ar y ffolineb o wadu Iaith gynhenid," a ddymunwn gyflwyno i'ch Cymdeithas a chwithau, i aros gwell.

A wirionwyd ar unwaith-yr adyn

Pan redai i estroniaith,

I wadu'i wlad, gyda lediaith,

Gwawdio hon, a gwadu ei hiaith?

A yw'n gywilydd gan ei galon-iaith serch

Iaith su ei fam radlon?

Ddyddiau hir, mor dda oedd hon

I ynganu angenion?

Ai gwr yw a gar awen-heb arddel

Iaith beirddion disgywen?

Ai un am les hanes hen

Wrthoda chwaer iaith Eden?

Iaith oedd araeth i ddewrion,-wroniaid

Drwy enwog ymdrechion,

Tan eu heirf bloeddient yn hon

"Trowch i'r gad! tr'ewch ergydion!"

Ac onis dewis y dyn-y gyngan

Sydd rhwng cangau'r dyffryn?

A gwin i'w fant? ac ni fyn

Iaith hudoliaeth y delyn?

Onid yw iaith fyw mor fad-yn deilwng

O'n dilyth arddeliad?

Neb ond un gwrthun a'i gwad

Neu a ludd ei choleddiad.

Y mae doethaf gymdeithion-Cymroaidd,

Ac amryw o'r Saeson-

Y'Ngwalia mae angylion

Gyda'u heirf am gadw hon.

A cheir yn pleidio ei choron-euraidd

Iorwerth a'i gyfeillion,

A gwr mawr o gyrrau M?n

Yn Llywydd yn Nghaerlleon.

Mwy addas i was isel-a'i osgedd

Am esgyn yn uchel,

Garu ei iaith, a'r gwr wêl

Werth ei hurdd wrth ei harddel.

O'i gwrthod, gwawd ac erthwch,-a'i dilyn

Hyd elor drwy dristwch;

Ni cha l?n goruwch ei lwch,

O glod goreu gwladgarwch.

Boed gan Gymro ym mhob broydd-o'i brif-iaith

Bur f?st yn lle c'wilydd,

Fel na ddel, tra y del dydd,

Lediaith ar ein haelwydydd.

TELYN CYMRU.

Allan o Saesoneg Mrs. Hemans, i Gymdeithas Gymreigyddol Rhuthyn, 1824.

O delyn oesol! dyro eto gainc,

Fel pan ewynai'r hirlas yn y wledd;

Pan gurai bronnau gan wladgarol ainc,

Pan wlychid byrddau Owain gan y medd:

O Delyn! deffro 'ngrym yr oesoedd hen,

Adleisia'r bryn dy geinciau gyda gwên.

Dy dant ni's tyr-Rhufeinydd erchyll d?n

Ddaeth dros las ddyfroedd, gyda llawer rhwyf,

Enynai fflam trwy dderi sanctaidd M?n,

A gwnai gromlechau'n garnedd yn ei nwyf,

Rhoi lwch y creiriau gyd a'r gwynt a'r lli',

Delyn, rho gainc, nis gallai d'atal di.

Dy dant ni's torrir. Chwyfiodd baner Sais

Yn ddig ar awel flith Eryri gerth,

Uwch bloedd ei udgyrn, clywid swn dy lais,

Pan guchiai'i gestyll ar y clogwyn serth,

Cynhyrfai'th d?n y dewrion i fwy bri,

Eu llethri oedd ganddynt, bronnau rhydd, a thi

Oes ddu oedd hon; pan gwympai'r glew dirus,

Pan dyfai chwyn gylch bwrdd lle gwleddodd cant,

Pan lechai'r llwynog yn y drylliawg lys,

Oedd nerth i ti'r pryd hyn-dawn ym mhob tant,

Yn nyddiau hedd dy geinciau grymus gyr,

O Delyn bêr! o'th dannau un ni's tyr.

AT EI RIENI.

Athrofa'r Iesu, Rhydychen,

Chwefror, 11fed, 1826.

ANWYL RIENI,

Yn lle esgus dros fod yn ddistaw cyhyd, rhoddaf i chwi hanes byr o'r modd yr ydwyf yn byw. Wrth ymdrechu dyfod i fyny gyda y rhai a gawsant bob mantais ysgolheigaidd ym moreu eu hoes, yr wyf yn gorfod bod yn ddiwyd iawn wrth fy llyfrau. Nid ydyw treiddio i mewn i ieithoedd ond gorchwyl sych a diffrwyth, ac i un yn fy sefyllfa i, o ran gwall cyfleusterau boreuol, y mae yn waith digon caled. Am y tro cyntaf yn fy mywyd, yr wyf yn cael fod "darllen llawer yn flinder i'r cnawd." Nid ydyw caethiwo fy hun i fyfyrdod wedi cael un effaith ddrwg ar fy iechyd eto. Aeth cyfaill i mi, a ddarllenasai lawer llai na mi, adref ddoe wedi ei nychu gan ormod o waith. Y mae fy nghorff yn gadarn wrth natur, ond yr wyf yn gorfod cerdded allan rywfaint bob dydd, er mwyn ei gadw mewn trefn.

Bu holiad cyffredin yn ddiweddar ar holl aelodau ein Coleg ni. Aethum drwyddo yn well nag yr oeddwn i na'm hathrawon yn disgwyl. O hyn i wyl Mihangel nesaf, rhaid imi fyned drwy ffwrn boethach nag a brofais eto,-cael fy holi ar gyhoedd o flaen yr holl Brif-ysgol, am fy ngwybodaeth o'r Lladin a'r Roeg, a Rhesymeg. Rhaid i mi hefyd ddysgu ysgrifeni Lladin mor rhwydd a Chymraeg. Yr wyf yn fynych yn crynu wrth feddwl am y frawdle, yn enwedig wrth weled cynnifer a gawsant eu dwyn i fyny yn yr ysgolion goreu o'u mebyd, yn colli'r dydd. Y mae fy mhwys yn bennaf ar y Rhagluniaeth oruchel a fu mor dyner tuay ataf hyd yn hyn. Y'mhellach, yr wyf yn yslyried mai fy nyledswydd ataf fy hun-at fy nghynalwyr-ac at y plwyfolion a gaf ryw dro, hwyrach, o dan fy ngofal-ydyw lloffa cymaint ag a allaf o wybodaeth am bob dysg a chelfyddyd. Gwelodd y caredig Mr. Clough a Mr. Phillips fy awyddfryd am bob hyfforddiad, a chymerasant fi gyda hwynt i wrando y darlithoedd a draddodir gan ein prif ddysgedigion ar y celfyddydau breiniol. Y diweddaf a glywais oedd yr enwog Ddoctor Buckland, areithydd ar natur y ddaear, ei chreigydd a'i meteloedd. Pan ddeuaf adref gallaf roddi i chwi rai newyddion am weithiau glo a phlwm. Hawdd i chwi weled fod y gofalon a'r gorchwylion hyn yn difa fy holl amser, ac nid hyn yw y cwbl. Wrth aneddu yn Nhrefaldwyn a Rhydychen, ffurfais gydnabyddiaeth a llawer o foneddigion,-rhai o honynt, o ran dysg a dawn, ym mhlith y gwyr enwocaf yn y deyrnas. Nid oes boreu braidd yn myned heibio nad wyf yn derbyn llythyr o ryw gwr neu gilydd i'r wlad. Nid oes gennyf, gyda chwareu teg, amser i ateb un o honynt; ac os bydd un gohebwr y gallaf hyderu ar ei gyfeillgarwch i beidio digio wrthyf, yr wyf yn gadael iddo aros nes elo fy helbul yn yr athrofa heibio. Fy mwriad yn myned dros yr holl bethau hyn ydyw, i ddangos i chwi a'm hanwyl gyfeillion, Mr. Thomas Jones ac Isaac, yr unig achos na ysgrifenais atoch oll lawer cyn hyn. Os gwelwch ddim yn yr hyn a ddywedais, yn mynegi yr anrhydedd anisgwyliadwy a ddaeth i'm rhan, gwybyddwch mai nid er mwyn cynhyrfu ymffrosl ynoch yr adroddais ef; ond yn hytrach er eich annog i uno gyda mi mewn diolchgarwch i'r Duw a fu mor dirion wrthyf. Bydd yn dda genych glywed fy mod i ac oddeutu hanner dwsin o'm cyd-ysgolheigion wedi llwyddo i gael Cymdeithas Genadawl fechan yn ein hathrofa. Yr ydym hefyd yn ymgyfarfod yn ystafelloedd ein gilydd, yn olynol, ar nosau Sul, i ddarllen y Bibl a gweddio. Nos Sul diweddaf yr oeddynt oll yn fy ystafell i: a phan byddo dadwrdd cyfeddach yn taro ar ein clustiau o ystafelloedd eraill, gallwn ddweyd, "Rhoddaist fwy llawenydd yn ein calon nag yr amser yr amlhaodd eu b?d a'u gwin hwynt."

Hyfryd iawn oedd genyf glywed am ymwared fy anwyl chwaer. Cofiwch fi ati yn garedig, at fy mrawd, yr holl blant, ac yn enwedig at y ferch ddieithr. Buasai dda genyf allu anfon anrheg iddi hi a'i mam, ond mae hynny yn bresenol o fy nghyrraedd. Gadewch iddo-mae'r galon yn llawn, os yw'r pwrs yn wag. Byddwch gystal a rhoddi y penhillion canlynol iddi yn lle Valentine:

Henffych, ferch, i fyd o ofid,

Byd y dagrau, byd y groes:

Agoraist lygad ar yr adfyd,

Ti gei flinder os cei oes.

Mae gwlad well tu draw i'r afon,-

Nes cael glan ar oror iach,

Rhag pob drwg, y Duw sy'n S?on,

Fo'n dy noddi, Marged bach.

Mae'm dychymyg fel yn gwrando

P'un a glywaf mo dy sain,-

Gan holi'r awel sy'n mynd beibio,

A yw'th wyneb fel dy nain?

A oes eurwallt ar dy goryn?

A oes rhosyn ar dy rudd?

A pha dybiau sydd yn dirwyn

Drwy'th freuddwydion nos a dydd?

Pe bawn yna, anwyl faban,

Mi'th gofleidiwn gyda serch;

Ceit fy mendith am dy gusan,

Mi'th gyfrifwn fel fy merch:

Ac os try Rhaglumaeth olwyn

Fyth i'm dwyn i dir fy ngwlad,

Ti gei weled y gall rhywun

Garu ei nithoedd megis tad.

Yr wyf yn gyrru --- i Ruth: mae yn rhy fychan, ond y gwir yw hyn,-hyd wyl Mihangel nesaf byddaf yn llwm iawn o arian; wedi hynny, caf dderbyn swm ychwanegol yn y flwyddyn. Yna mi ofalaf am dalu eich rhent, eich tir pytatws, a phesgi'r mochyn. Rhoddwch ddillad da am Ruth . . . Unwaith eto, yr wyf yn eich tynghedu, na oddefwch eisiau dim. Gyda bendith, nid oes perygl na allaf ei dalu yn ol ar ei ganfed. Pa beth ydyw gwaith fy nhad? A ydyw'n esmwyth? Cofiwch fi yn garedig at deulu Broncoed, a rhoddwch fy serch at fy hen gyfeillion oll . . . Mae amser a phapur wedi pallu, y gloch yn taro pedwar yn y borau-a'r ganwyll yn llosgi i'r ganwyllbren-ni chaf ond dywedyd fy mod yn aros,

Eich dyledog fab,

J. BLACKWELL.

CYWYDD Y GWAHAWDD:

A anfonwyd mewn llythyr o wnhoddiad Medi 6ed, 1826, oddiwrth Ifor Ceri, at Wilym Aled a'i Gywely.

Eto, Aled, atolwg

Gad si'r dre', a mangre m?g;

Gad Saeson, gwawd, a sisial

Arian, a thincian, a thal;

Gad wbwb a gwau diball

Mammon i feibion y fall:

Rho i'th law,-pryd noswyliaw sydd,

Eleni un awr lonydd;

Gwamal i ti ogymaint

Hela myrdd, a holi maint

Ydyw gwerth yr indigo,

A ffwgws, heb ddiffygio,

Gan na cheir gennych hwyrach

Weled byth un Aled bach,

Na geneth, a drin geiniog

O dyrrau llawn dy aur llog.

O fewn llong tyrd tros gefn llwyd

Y Mersey, heb ddim arswyd,-

A'th gymar sydd werth gemau

Prysurwch, deuwch eich dau

I Geri, fan hawddgaraf,

Man gwar, lle mae hwya'r haf:

Mor loewlon y mae'r lili

A'r rhos yn eich aros chwi,

A phleth rydd yr adar fflwch,

Hyd awyr, pan y deuwch;

Cewch eich dau wenau uniawn

Ifor a Nest, fore a nawn:

(Yma diolch raid imi

"Amen dywed gyda mi,"

Ddwyn Ifor, gan Dduw nefol,

A'i wiw Nest, i Geri'n ol:)

At un Nest dda west, ddiwall,

Tyred a dy Nest arall;

Braint cyn bedd, cael medd a maeth

Maesaleg un mis helaeth;

Y mae sylwedd Maesaleg,

A'i d?r, yn y Geri deg.

Y mae un gwr mwy nag oll,

Awch digoll uwch ei degan:

Ifor bach sydd a'i ferw byth,

Drwy gofio yn dragyfyth;

"Mae'r gwr yn mhryd mebyd mau,

Enynnodd hen awenau

Y glyn, nes oedd bryn a bro,

A gwig las, yn gogleisio;

Ai pell-ai trapell y trig-y gwiwddyn

Fynnai delyn a cherdd fy Nadolig?"

Tyrd Aled, ira d'olwyn,

A thyrd i ddoldir a thwyn;

Ac awyr lem Ceri lan,

Perarogl copa'r Aran;

Gwrandaw sibrwd y ffrwd ffraw-rhwng deilfur,

Y dwr eglur yn trydar wrth dreiglaw;

Rhodio i wrando'r ehedydd,

Dringo'r bryn ar derfyn dydd;

Hufen Nest a chan Ifor,

A d?r mad, drwy rad yr Ior,-

Wnant it' neidio a gwisgo gwên,

Deui'n foch-goch,-doi'n fachgen.

Gan Alun, gwan wehelyth,

O fwrdd i fwrdd, wael fardd fyth,-

Gwely nid oes, nac aelwyd,

Na bir i'w gynnyg, na bwyd,-

Cei law a chalon lawen,

A mwy ni cheisi, Amen.

DISADVANTAGES AND AIMS.

TO R. GARNONS,

Jesus College, Oxford,

October 2nd, 1826.

I can hardly hope, in four short years, to surmount the disadvantages of my youth, and gain academical distinction. To him, who in his 20th year, learnt his Greek alphabet, a first class at College must be a hopless aim; while an University prize must be beyond the reach of one who merely began to speak English about his twentieth year. Aware of these circumstances, the friends whom I consult have advised me to collect (should necessary studies allow me leisure) as much as I can of such information as will be useful to me in the sacred office I shall be called upon to fill. What I shall lose in attainments, I will endeavour to make up in Christian conduct. That God, who is the sole Dispenser of all the blessings that has been showered upon my path, claims my first duty. My next ambition will be to fulfil my ministry with that zeal and decorum which characterize the spirit of our venerable Establishment; while gratitude will prompt me to dedicate my leisure hours to the literature of my native Principality.

That I may thus live, is my fervent prayer; and all I ask in addition, is a situation where I may watch over the wants of my poor, but worthy parents; and make as far as depends on human aid, their evening set in smiles.

I am, Sir, your most obedient servant,

J. BLACKWELL.

CALVINISM.

To the Committee of the Welsh Church in Liverpool.

Neptune Hotel, Liverpool,

July 20th, 1827.

GENTLEMEN,

I was nurtured among Calvinists. To their Sunday School I am indebted for almost all the education my youthful years were blessed with. Towards some of them I was taught in infancy to look up with reverence and esteem; and the recollection of their Christian virtues proves to me that whatever tendency Calvinism may have to relax the ties of moral obligation, the argument cannot be drawn from the lives of many of its professors. With many Clergymen who take Calvinism for their creed, I have still the happiness to live in bonds of Christian friendship; but my respect for the men does not blind me to their opinions. I am no Calvinist, and ever since I have been capable of forming a judgment upon theological subjects, I have not been a Calvinist. The sincerity of my attachment to our national Church cannot, I trust, be doubted. I was made a member of her by Baptism, and ever since I have attained to years of discretion, my public devotions have been offered up within her pale. For many a dark year-long before the idea of my being elevated to the clerical function had received a shadow of existence, I had resolved to live and die an humble worshipper at her altar.

J. BLACKWELL.

AT EI FAM, PAN OEDD WEDDW.

Athrofa'r Iesu, Rhydychen,

Hyd. 19eg 1827.

FY ANWYL FAM,

Fy nyledswydd ydyw hysbysu i chwi, gyda phob brys, fy mod wedi cyrraedd pen fy nhaith yn gysurus, a chael pob peth wrth fy modd. Y mae y cyflwr unig y gadewais chwi ynddo, yn peri i mi hiraethu mwy am danoch y tro hwn nag un tro o'r blaen. Buasai yn dda gan fy nghalon gael aros yn agos atoch nes i angeu ein gwahanu. Ond nid felly y mae Rhagluniaeth yn trefnu: rhaid i ninnau ymostwng. O ddiwrnod i ddiwrnod daw y flwyddyn i fyny, pan y caf eich gweled, gobeithio, mewn gwell iechyd ac ysbrydoedd nag y gadewais chwi. Yn y cyfamser erfyniaf arnoch, er dim, i gadw eich meddwl mor dawel ag y galloch: ar hyn y mae eich cysur chwi a minnau yn ymddibynu. Ni wna tristhau ac ymofidio ddim ond gwaethygu eich llygaid dolurus, a chlwyfo meddwl y rhai a'ch carant. Digon gwir cawsom golled fawr,-collasom y cyfaill ffyddlonaf a thirionaf a welsom erioed; eto "na thristawn fel rhai heb obaith." Oni adawodd dystiolaeth ar ei ol ei fod wedi myned i ddedwyddwch-i wlad well na daear, "lle y gorffwys y rhai lluddedig, ac ni chlywant lais y gorthrymydd." Ac os dilynwn ei lwybrau, ni a gawn ei gyfarfod eto mewn ardal nad oes na phechod, na phoen, nag ymadawiad o'i mewn. "Gwir ddymuniad fy nghalon, a'm gweddi ar Dduw sydd erddoch."

CWYN AR OL CYFAILL.

Pan hirarosai yn Rhydychen, Mehefin, 1827.

(Efelychiad o "Bugail Cwmdyli," gan I. G. G.)

Trwy ba bleserau byd

Yr wyt yn crwydro c'yd?

Mae pleser fel y lli',

A'r moethau goreu i mi

Yn wermod hebot ti,

Sior anwylaf.

Trwm wibio llygad llaith

Am danat yw fy ngwaith;

A rhodio godre'r bryn,

A gwyrddion lannau'r llyn,

Lle rhodit ti cyn hyn,

Sior anwylaf.

Mae peraidd flodau d'ardd

Yn gwywo fel dy fardd;

A'th ddefaid hyd y dd?l,

A'u gwirion ?yn o'u hol

Yn gofyn ddo'i di'n ol,

Sior anwylaf.

Mae'n Nghymru laeth a mêl,

Mae'n Nghymru fron ddi-gêl,

Mae'n Nghymru un yn brudd

O'th eisiau, n?s a dydd,-

A'i gair wrth farw fydd,

Sior anwylaf.

MARWOLAETH YR ESGOB HEBER.

Lle treigla'r Caveri {101} yn donnau tryloewon,

Rhwng glennydd lle chwardd y pomgranad a'r p?n

Lle tyfa perlysiau yn llwyni teleidion,

Lle distyll eu cangau y neithdar a'r gw?n;

Eisteddai Hindoo ar lawr i alaru,

Ei ddagrau yn llif dros ei riddiau melynddu,

A'i fron braidd rhy lawn i'w dafod lefaru,

Ymdorrai ei alaeth fel hyn dros ei fin:-

"Fy ngwlad! O fy ngwlad, lle gorwedd fy nhadau!

Ai mangre y nos fyddi byth fel yn awr?

Y Seren a dybiais oedd Seren y borau,

Ar nawn ei disgleirdeb a syrthiodd i lawr;

Y dwyrain a wenai, y tymor tywynnodd,

A godrau y cwmwl cadduglyd oreurodd,

Disgwyliais am haul-ond y Seren fachludodd

Cyn i mi weled ond cysgod y wawr.

"Fy ngwlad! O fy ngwlad! yn ofer yr hidlwyd

I'th fynwes fendithion rhagorach nag un,

Yn ofer ag urdd bryd a phryd y'th anrhegwyd,

Cywreindeb i fab, a phrydferthwch i fun;

Yn ofer tywynni mewn gwedd ddigyfartal,

A blodau amryliw yn hulio dy anial,

A nentydd yn siarad ar wely o risial,

A pbob peth yn ddwyfol ond ysbryd y dyn.

"Yn ofer y tardd trwy dy dir heb eu gofyn

Ddillynion per anian yn fil ac yn fyrdd;

Yn ofer y gwisgwyd pob d?l a phob dyffryn

A dillad Paradwys yn wyn ac yn wyrdd;

Yn ofer rhoi awen o Nef i dy adar,

A gwythi o berl i fritho dy ddaear;

Yn ofer pob dawn tra mae bonllef a thrydar

Yr angrhed a'i anrhaith yn llenwi dy ffyrdd.

"Dy goelgrefydd greulon wna d'ardd yn anialdir,

Ei sylfaen yw gwaed, a gorthrymder a cham:

Pa oergri fwrlymaidd o'r Ganges {102a} a glywir?

Maban a foddwyd gan grefydd y fam:

Ond gwaddod y gwae iddi hithau ddaw heibio;

O! dacw'r nen gan y goelcerth yn rhuddo,

Ac uchel glogwyni y Malwah {102b} 'n adseinio

Gan ddolef y weddw o ganol y fflam.

"Gobeithiais cyn hyn buasai enw Duw Israel,

A'r aberth anfeidrol ar ael Calfari,

Yn destun pob cerddi o draeth Coromandel,

A chonglau Bengal hyd i eithaf Tickree; {102c}

Ac onid oedd Bramah yn crynu ar ei cherbyd,

Er y pryd y bu Swartz yn cyhoeddi fod bywyd

Yn angau y groes i Baganiaid dwyreinfyd?-

Pan gredodd fy nhad yr hyn ddysgodd i mi. {102d}

"A'th ddoniau yn nwch, ac yn uwch dy sefyllfa,

A'th enaid yn dan o enyniad y Nef,

Cyhoeddaist ti, Heber, yr unrhyw ddiangfa,

Gyda'r un serch ac addfwynder ag ef;

Dyferai fel gwlith ar y rhos dy hyawdledd,

Enillai'r digred at y groes a'r gwirionedd,

Llonyddai'r gydwybod mewn nefol drugaredd;-

Mor chwith na chaf mwyach byth glywed dy lef.

"Doe i felynion a gwynion yn dryfrith,

Cyfrenit elfennau danteithion y nen;

Y plant a feithrinit neshaent am dy fendith,

A gwenent wrth deimlo dy law ar eu pen;

Doe y datgenit fod Nef i'r trallodus-

Heddyw ffraethineb sy' fud ar dy wefus-

Ehedaist o'r ddaear heb wasgfa ofidus,

I weled dy Brynwr heb gwmwl na llen. {103a}

'Fy ngwlad! O fy ngwlad! bu ddrwg i ti'r diwrnod

'Raeth Heber o rwymau marwoldeb yn rhydd;

Y grechwen sy'n codi o demlau'r eulunod,

Ac uffern yn ateb y grechwen y sydd;

Juggernaut {103b} erch barotoa'i olwynion-

Olwynion a liwir gan gochwaed dy feibion-

Duodd y nos-ac i deulu Duw S?on

Diflannodd pob gobaith am weled y dydd."

Yn araf, fy mrawd, paid, paid anobeithio,

Gwnai gam ag addewid gyfoethog yr I?R:

A ddiffydd yr haul am i seren fachludo?

Os pallodd yr aber, a sychodd y m?r?

Na, na, fe ddaw bore bydd un Haleluia,

Yn ennyn o'r Gauts hyd gopau Himalaya, {104a}

Bydd baner yr Oen ar bob clogwyn yn India,

O aelgerth Cashgur hyd i garth Travancore.

A hwyrach mai d'wyrion a gasglant dy ddelwau

A fwrir i'r wadd ar bob twmpath a bryn,

Ar feddrod ein Heber i'w rhoi yn lle blodau,-

Ei gyfran o ysbail ddymunodd cyn hyn:

Heber! ei enw ddeffrodd alarnadau,

Gydymaith mewn galar, rho fenthyg dy dannau,

Cymysgwn ein cerddi, cymysgwn ein dagrau,

Os din?dd y gerdd bydd y llygad yn llyn.

Yn anterth dy lwydd, Heber, syrthiaist i'r beddrod,

Cyn i dy goryn ddwyn un blewyn brith;

Yn nghanol dy lesni y gwywaist i'r gwaelod,

A'th ddeilen yn ?r gan y wawrddydd a'r gwlith:

Mewn munyd newidiaist y meitr am goron,

A'r fantell esgobawl am wisg wen yn S?on,

Ac acen galarnad am hymn anfarwolion,

A thithau gymysgaist dy hymn yn eu plith.

Llwyni Academus, {104b} cynorsaf dy lwyddiant,

Lle gwridaist wrth glod y dysgedig a'r gwar;

Y cangau a eiliaist a droed yn adgofiant

O alar ac alaeth i'r lluoedd a'th gar:

Llygaid ein ieuenctid, a ddysgwyd i'th hoffi,

Wrth weled dy ardeb yn britho ffenestri

A lanwant, gan gofio fod ffrydiau Caveri

Yn golchi dy fynwent wrth draeth Tanquebar.

Llaith oedd dy fin gan wlithoedd Castalia,

O Helicon yfaist ym more dy oes;

Ond hoffaist wlith Hermon a ffrydiau Siloa,

A swyn pob testynau daearol a ffoes:

Athrylith, Athroniaeth, a dysg yr Awenau,

A blethent eu llawryf o gylch dy arleisiau;

Tithau'n ddi-f?st a dderbyniaist eu cedau,

I'w hongian yn offrwm ar drostan y Groes.

Pan oedd byd yn agor ei byrth i dy dderbyn,

Gan addaw pob mwyniant os unit ag ef,-

Cofleidiaist y Groes, a chyfrifaist yn elyn

Bob meddwl a geisiai fynd rhyngot a'r nef:

Yn Hodnet {105} yn hir saif dy enw ar galonnau

Y diriaid ddychwelwyd yn saint trwy'th bregethau-

Amddifad gadd borth yn dy briod a thithau-

Y weddw a noddaist-y wan wneist yn gref.

Gadewaist a'th garant-yn ysbryd Cenadwr

Y nofiaist tros donnau trochionog y m?r,

I ddatgan fod Iesu yn berffaith Waredwr

I Vahmond Delhi, ac i Frahmin Mysore;

Daeth bywyd ac adnerth i Eglwys y Dwyrain-

Offrymwyd ar allor Duw Israel a Phrydain-

Yn nagrau a galar Hindoo gallwn ddarllain

Na sengaist ti India heb gwmni dy I?R.

O G?r Trichinopoly, cadw di'n ddiogel

Weddillion y Sant i fwynhau melus hun,

Pan ferwo y weilgi ar lan Coromandel,

Gofynnir adfeilion ei babell bob un;-

Ond tawed ein pruddgerdd am bennill melusach,

A ganodd ein Heber ar dannau siriolach,

Yn arwyl y Bardd a pha odlau cymhwysach

Dilynir ei elor na'i odlau ei hun?

"Diangaist i'r bedd-ni alarwn am danad,

Er mai trigfa galar a niwl ydyw'r bedd;

Agorwyd ei ddorau o'r blaen gan dy Geidwad,

A'i gariad gwna'r ddunos yn ddiwrnod o hedd.

Diangaist i'r bedd-ac ni welwn di mwyach

Yn dringo rhiw bywyd trwy ludded a phoen:

Ond breichiau rhad ras a'th gofleidiant ti bellach,

Daeth gobaith i'r euog pan drengodd yr Oen.

"Diangaist i'r bedd-ac wrth adael marwoldeb

Rhwng hyder ac ofn, os unwaith petrusaist,

Dy lygaid agorwyd yn nydd tragwyddoldeb,

Ac angel a ganodd yr Anthem a glywaist.

Diangaist i'r bedd-byddai'n bechod galaru,

At Dduw y diangaist-y Duw a dy roes:

Efe a'th gymerodd-Efe wna'th adferu

Digolyn yw angau trwy angau y groes."

* * * * *

Cyfieithiad yw'r ddau bennill olaf o emyn Heber ei hun,-

"Thou art gone to the grave, but we will not deplore thee,

Though sadness and sorrow encompass the tomb."

SEREN BETHLEHEM.

(Cyfieithiad o Saesoneg H. K. White.)

Pan bo sêr anhraethol nifer

Yn britho tywyll lenni'r nen,

At un yn unig drwy'r eangder

Y tal i'r euog godi ei ben;

Clywch! Hosanna'n felus ddwndwr

Red i Dduw o em i em,

Ond un sy'n datgan y Gwaredwr,

Honno yw Seren Bethlehem.

Unwaith hwyliais ar y cefnfor

A'r 'storm yn gerth, a'r nos yn ddu,

Minnau heb na llyw, nac angor,

Na gwawr, na gobaith o un tu,

Nerth a dyfais wedi gorffen,

Dim ond soddi yn fy nhrem,

Ar fy ing y cododd seren,

Seren nefol Bethlehem.

Bu'n llusern a thywysydd imi,

Lladdodd ofn y dyfrllyd fedd,

Ac o erchyll safn y weilgi

Dug fi i borthladd dwyfol hedd;-

Mae'n awr yn deg, a minnau'n canu,

F'achub o'r ystorom lem,

A chanaf pan bo'r byd yn ffaglu

Seren! Seren! Bethlehem!

AT MANOR DEIFI.

TO E. WHITLEY, ESQ., BRONCOED.

Cardigan, March 30th, 1835.

MY EVER DEAR SIR,

Old recollections-and recollections dearer for being old-make Broncoed and the name of Whitley much dearer to my memory and heart than other names and places. My own former humble home is now another's,-I know it no more; and there is scarcely a house now in the parish into which I would venture to turn besides yours, your cousin's, Mr. Clough's and two or three more. Yet, I feel a tie between me and Mold and its inhabitants, which nothing but death can unloose. There lies the grave of my dear, though poor parents, and there burst the dawn of my brightest days. The same Providence which smiled upon the beginning of my happier years, continues kind still. I have indeed abundant reason to thank heaven for the many, many blessings which have been showered upon my path; nor do I forget the kind hands which were employed in showering them, and your own amongst the number.

When I first came to Manordeifi, there was but one service on the Sunday, and that almost entirely in Welsh. Seeing that five of the principal families in Pembrokeshire were under my pastoral care, and that neither themselves nor their dependants understood any Welsh, I established two services, one entirely English, the other exclusively in our beloved Welsh.

CATHL I'R EOS.

Pan guddio nos ein daear gu

O dan ei du adenydd,

Y clywir dy delori mwyn,

A ch?r y llwyn yn llonydd;

Ac os bydd pigyn dan dy fron

Yn peri i'th galon guro,

Ni wnai, nes torro'r wawrddydd hael,

Ond canu a gadael iddo.

A thebyg it' yw'r feinir war

Sydd gymar gwell na gemau,

Er cilio haul, a hulio bro

A miloedd o gymylau;

Pan dawo holl gysurwyr dydd,

Hi lyna yn ffyddlonaf;

Yn nyfnder nos o boen a thrais

Y dyry lais felusaf.

Er dichon fod ei chalon wan

Yn delwi dan y dulid,

Ni chwyna, i flino'i hanwyl rai,-

Ei gwên a guddia'i gofid:

Ni pheidia'i chan trwy ddunos faith,

Nes gweled gobaith goleu

Yn t'wynu, megys llygad aur,

Trwy bur amrantau'r boreu.

ABAD-DY TINTERN.

Pa sawl bron a oerodd yma?

Pa sawl llygad ga'dd ei gloi?

Pa sawl un sydd yn y gladdfa,

A'r cof o honynt wedi ffoi?

Pa sawl gwaith, ar wawr a gosber

Swniai'r gloch ar hyd y glyn?

Pa sawl Ave, cred a phader,

Dd'wedwyd rhwng y muriau hyn?

Ar y gareg sydd gyferbyn,

A faluriwyd gan yr hin,

Tybiaf weld, o flaen ei eilun,

Ryw bererin ar ei lin;

Tybiaf fod y mwg o'r thuser

Eto'n codi'n golofn wen,

A bod swn yr organ seinber

Eto yn dadseinio'r nen.

Ond Distawrwydd wnaeth ei phabell

Lle cartrefai'r anthem gynt;

Nid oes yma, o gor i gangell,

Un erddygan, ond y gwynt.-

Felly darffo pob coel-grefydd,

Crymed byd ger bron y Gwir;

Hedd a chariad, ar eu cynnydd,

Fo'n teyrnasu tros y tir.

CAN GWRAIG Y PYSGOTWR.

Gorffwys donn, dylifa'n llonydd,

Paid a digio wrth y creigydd;

Y mae anian yn noswylio,

Pa'm y byddi di yn effro?

Dwndwr daear sydd yn darfod,-

Cysga dithau ar dy dywod.

Gorffwys for! mae ar dy lasdon

Un yn dwyn serchiadau 'nghalon;

Nid ei ran yw bywyd segur,

Ar dy lifiant mae ei lafur;

Bydd dda wrtho, for diddarfod,

Cysga'n dawel ar dy dywod.

Paid a grwgnach, bydd yn ddiddig,

Dyro ffrwyn ym mhen dy gesig;

A pha esgus iti ffromi?

Nid oes gwynt ym mrig y llwyni:

Tyrd a bad fy ngwr i'r diddos

Cyn cysgodion dwfn y ceunos.

Iawn i wraig yw teimlo pryder

Pan bo'i gwr ar gefn y dyfnder;

Ond os cyffry dig dy donnau,

Pwy a ddirnad ei theimladau?

O bydd dirion wrth fy mhriod,-

Cysga'n dawel ar dy dywod.

Byddar ydwyt i fy ymbil,

For didostur, ddofn dy grombil;

Trof at Un a all dy farchog

Pan bo'th donnau yn gynddeiriog;

Cymer Ef fy ngwr i'w gysgod,

A gwna di'n dawel ar dy dywod.

Y DDEILEN GRIN

Sech yw'r ddeilen ar y brigyn,

Buan iawn i'r llaid y disgyn;

Ond y meddwl call a ddarllen

Wers o addysg ar y ddeilen.

Unwaith chwarddodd mewn gwyrddlesni,

Gwawr y nef orftwysodd arni;

Gyda myrddiwn o gyfeillion,

Dawnsiodd yn yr hwyr awelon.

Darfu'r urdd oedd arni gynnau,

Prin y deil dan wlith y borau,

Cryna rhag y chwa ireiddlon

Sydd yn angeu i'w chyfoedion.

Ni all haul er ymbelydru,

Na llawn lloer er ei hariannu,

Ac ni all yr awel dyner

Alw yn ol ei hen ireidd-der.

Blaguro ychydig oedd ei chyfran,

Rhoi un wên ar wyneb anian;

Llef o'r nef yn Hydref waedda-

Darfu'th waith,"-a hithau drenga.

Footnotes:

{1a} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas.

{1b} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas.

{1c} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas.

{1d} O wawl-arluniau gan y diweddar John Thomas.

{26} Cyfeiriad at farwolaeth echrydus Iorwerth II. Cym. The Bard, Gray.

{27} Man y llofruddiwyd llawer o hil Edward.

{28} Harri VII., buddugwr Bosworth.

{33} Yr arwyddair dan Loer arian y Twrc yw,-"Nes llenwi hol ddaear."

{45a} Flodden Field, by Sir Walter Scott.

{45b} Siege of Corinth, by Lord Byron; and Siege of Valencia, by Mrs. Hemans.

{47} The English Channel.

{53} Hesperus, the evening star.

{101} Caveri.-Afon yn Ngorllewin Hindostan, a lifa heibio Trichinopoly, claddfa yr Esgob Heber, ac a ymarllwysa i f?r Coromandel wrth Tranquebar.

{102a} Ganges-prif afon India-gwrthddrych addoliad y Brahminiaid. Cyffredin ydyw i wragedd daflu eu mabanod i'w thonnau er mwyn boddio y duw Himalaya, a elwir yn Dad y Ganges.

{102b} Y Malwah.-Rhes o fynyddoedd uchel yng nghanol Hindostan. Nid yw cyngor na cherydd Prydeiniaid yn gallu rhwystro yr arfer greulon gynhwynol o losgi gweddwon byw gyda'u gwyr meirw.

{102c} Nid anghyffelyb Hindostan i drionglyn, Coromandel, Tickree, a Bengal, ydynt y conglau.

{102d} Tybir bod tua 40,000 o Gristionogion, ond bod mwy na'u hanner yn Babyddion, yn y Carnatic. Nid yw prin werth crybwyll mai un o hil dyscyblion Swartz, cenadwr enwog tua chan' mlynedd yn ol, ydyw yr Hindoo a ddychymyga yr Alarnad.

{103a} Angeu disyfyd a gymerodd Heber ymaith tra y mwynhai drochfa dwymn. Y dydd o'r blaen-y Sabbath-cyflawnai ddyledswyddau ei daith esgobawl.

{103b} Juggernaut-un o eilunod pennaf Hindostan. Ar ei gylchwyl llusgir ef ar gert enfawr i ymweled a'i hafoty. Ymdafla miloedd o'i addolwyr dan ei olwynion trymion, ac yno y llethir hwynt.

{104a} Gauts-mynyddoedd uchel wrth Travancore, penrhyn deheuol.-Himalaya, mynyddoedd uwch, wrth Cashgur, penrhyn gogleddol Hindostan.

{104b} Llwyni Academus. Nid oes ond a wypo a ddichon ddychymygu y parch a dalwyd yn Rhydychen i Heber, ar parch a delir eto i'w enw. Yno y daeth gyntaf i wydd yr oes drwy ei Balestine, a gyfieithwyd i'r Gymraeg mor ardaerchog gan yr unig wr cyfaddas i'r gorchwyl-yr enwocaf Gymro, Dr. Pughe.

{105} Hodnet-yn Amwythig-yno y cyflawnai Heber swydd Bugail Cristionogol yn ddifefl hyd ei symudiad i India.

Previous
                         
Download Book

COPYRIGHT(©) 2022